Digwyddiadau
Gweithdy Hunanofal
Cyflwynir gan y Gwasanaeth Lles
Cyfle i ddysgu beth yw hunanofal a sut y gall gefnogi eich lles meddyliol.
Cyfle i archwilio eich gweithgareddau hunanofal presennol a nodi meysydd y gallech eu datblygu.
Dysgu sut mae eraill yn ymarfer hunanofal.
Dod i ddeall sut mae hunan tosturi yn rhan hanfodol o hunanofal.
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei hwyluso'n ddwyieithog gan y cwnselydd Llinos Morris.
Bydd y gweithdy yn cynnwys trafodaethau grŵp.
Mawrth 5ed 2025: 2.00yp-4.00yh
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ni ar: gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.
Nodwch pa weithdy yr hoffech fynychu a rhowch eich enw a rhif adnabod myfyriwr yn yr ebost.
Mae lleoedd yn gyfyngedig.
Edrych ar ôl dy Ffrind
Awgrymiadau ymarferol ar sut i gefnogi ffrind, suit i ddechrau sgwrs a chyfeirio, tra'n gofalu am eich lles eich hun.
Dydd Mercher, 22 Ionawr 2025: 2.00yp-4.00yh
Ystafell Gyfarfod 2, Neuadd Rathbone.
Ar gyfer ymholidau pellach, neu i archebu lle, cysylltwch â: gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.
Gweithdai Celf er Lles 2025
Cynhelir Gweithdai Celf er Lles ar foreau Mawrth rhwng 18 Chwefror 2025 a 25 Mawrth 2025:
- 18/02/2025 (9:30am – 11:30am) – Gwaith Celf Powlen Kintsugi
- 25/02/2025 (9:30am – 11:30am) – Portffolio Positifrwydd
- 04/03/2025 (9:30am – 11:30am) – Celf Niwrograffig
- 11/03/2025 (9:30am – 11:30am) – Torri Lluniau Allan o Bapur
- 18/03/2025 (9:30am – 11:30am) – Llusern Diolchgarwch
- 25/03/2025 (9:30am – 11:30am) – Mandala Carreg Gron
Mae croeso i fyfyrwyr fynychu'r holl weithdai neu i ddewis sesiynau unigol o ddiddordeb.
Cwblhewch y  i gofrestru.
Os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.