Cyfleusterau Dysgu ac Addysgu
Yn ogystal â'n hardaloedd dysgu, ystafelloedd TG, labordai a llyfrgelloedd, mae gennym hefyd ardd fotaneg, amgueddfa a llong ymchwil ein hunain. Â
Lleoliad heb ei ailÂ
Mae lleoliad ÑÇÖÞÉ«°É – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Ond mae ÑÇÖÞÉ«°É yn fwy na phrydferth, mae'n cynnig cyfle gwych i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnwys y wifren wib gyflymaf yn Ewrop.
Clybiau a chymdeithasauÂ
Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Gydag ystod eang o glybiau a chymdeithasau ar gael, rydych yn siŵr o ddod o hyd i glwb sy'n eich siwtio chi, beth bynnag yw eich diddordebau.