Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg ÑÇÖÞÉ«°É (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol – yn amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-golegol i gemau pêl-droed a rygbi, a theithiau blynyddol i’r Iwerddon neu’r Alban.
Profiadau ein myfyrwyr
I’ch diddanu
Beth sydd ym Mangor?
Mae yna ddigonedd o dafarndai, caffis a bwytai ym Mangor a'r cyffiniau, gyda llawer o leoedd ar gampws y Brifysgol. Mae Bar Uno ym Mhentref Ffriddoedd ar agor tan yn hwyr ac yn gweini bwyd, diod a choffi Starbucks. Ym Mhentref y Santes Fair, mae Barlows yn lle gwych i gwrdd â ffrindiau. Mae'n cynnig dewis o opsiynau bwyd a diod, gan gynnwys coffi Starbucks, ag ystod o eitemau bwyd hanfodol.
Clwb myfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É yw Academi. Yn ogystal â'r clwb, mae gan Academi ddau far, caffi a siop.
Mae canolfan Pontio yn ganolbwynt i fyfyrwyr gymdeithasu. Y tu mewn fe welwch sinema a theatr yn ogystal â bar a chaffi. Mae Undeb y Myfyrwyr ar y trydydd llawr ac mae darlithfeydd a gofodau dysgu cymdeithasol drwyddi draw.
Digwyddiadau i fyfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfleoedd i chi gwrdd â myfyrwyr eraill a chymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli. Undeb Myfyrwyr Cymraeg ÑÇÖÞÉ«°É (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o ddigwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol  y Cymry – yn amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-golegol i gemau pêl-droed a rygbi, a theithiau blynyddol i’r Iwerddon neu’r Alban.Â
Mae Aelwyd JMJ yn cwrdd yn wythnosol yn neuadd John Morris-Jones. Prif ffocws yr Aelwyd yw'r côr, ond maent hefyd yn cymdeithasu'n rheolaidd.
Mae Campws Byw yn rhaglen arbennig o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yn neuaddau preswyl y Brifysgol. Cymerwch seibiant o'ch astudiaethau, cwrdd â phobl newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau rydych chi eisoes yn eu mwynhau, neu beth am roi cynnig ar rywbeth gwahanol?
Mae'r Swyddfa Gymorth Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnal rhaglen gymdeithasol sy'n cynnwys digwyddiadau am ddim yn ogystal â theithiau o amgylch yr ardal leol a thu hwnt. Er bod y rhaglen wedi'i chynllunio gyda myfyrwyr rhyngwladol mewn golwg, mae'n agored i bob myfyriwr. Hefyd cynhelir cyngerdd Gala Un Byd bob blwyddyn sy'n dathlu cenedligrwydd niferus ein myfyrwyr.
Clybiau a Chymdeithasau
Mae clybiau a chymdeithasau yn chwarae rhan enfawr ym mywyd cymdeithasol ein myfyrwyr. Mae gan Undeb y Myfyrwyr ystod eang o wahanol rai y gallwch chi ymuno â nhw. Mae yna amrywiaeth eang ar gael, o chwaraeon fel pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi a thenis i weithgareddau mwy anarferol fel hoci tanddwr a quidditch.
Mae ein lleoliad, yn agos at draethau, mynyddoedd, llynnoedd ac afonydd yn golygu y gall myfyrwyr gymryd rhan mewn clybiau antur awyr agored fel syrffio, caiacio, cerdded mynyddoedd a hwylfyrddio.
Ond dydy ÑÇÖÞÉ«°É ddim ond ar gyfer myfyrwyr sy'n hoffi chwaraeon, gallwch hefyd ymuno â chymdeithasau sy'n ymwneud â drama, ffotograffiaeth, cerddoriaeth a chrefftau.
Chwaraeon ac antur
Mae gan ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford, gampfa fawr, stiwdios ffitrwydd, neuaddau chwaraeon, cyrtiau, wal ddringo a llawer mwy. Mae ystafell ffitrwydd ac ardal gemau aml-ddefnydd ym Mhentref y Santes Fair a chaeau chwarae awyr agored yn Nhreborth. O fewn ÑÇÖÞÉ«°É, mae pwll nofio yng nghanol y ddinas.
Gallwch hefyd gymryd rhan mewn ystod eang o chwaraeon awyr agored.