亚洲色吧

Fy ngwlad:

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Ysgoloriaethau

Angen cyngor?

  • 听Bydd gwybodaeth am yr amserlen a'r broses o ymgeisio am Ysgoloriaethau Mynediad 2025 ar gael yn fuan.

Cofiwch...

  • Gallwch dderbyn Ysgoloriaeth Teilyngdod, neu unrhywun o'r Ysgoloriaethau Mynediad eraill, yn ychwanegol at听unrhyw daliad(au) bwrsariaeth rydych yn gymwys amdano/amdanynt.
  • I fod yn gymwys i gael unrhyw un o fwrsariaethau 亚洲色吧, rhaid i chi lenwi ffurflen Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr (PN1) - dyma'r ffordd o asesu hawl myfyrwyr i gael benthyciadau, grantiau cynhaliaeth ac ati. Bydd yr un drefn (a'r un ffurflen) yn cynnwys asesu eich hawl i gael un o fwrsariaethau 亚洲色吧.
  • Caiff bwrsariaethau ond eu talu i fyfyrwyr israddedig llawn amser sydd yn talu'r ffi llawn o 拢9,000, wedi cofrestru ac yn bresennol 14 diwrnod cyn diwrnod talu'r fwrsariaeth.
  • Nid yw myfyrwyr sydd yn derbyn unrhyw daliad bwrsariaeth arall (e.e. GIC, Cyngor Gofal Iechyd a Chymdeithasol) yn deilwng ar gyfer y cynllun bwrsariaethau.
  • Caiff taliadau bwrsariaethau eu gweinyddu a'u dosbarthu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ran y Brifysgol - felly rhaid i chi lenwi ffurflen gais am gyllid myfyrwyr cyn gallu derbyn taliad bwrsariaeth gan Fangor.

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn falch o allu cynnig y bwrsariaethau canlynol i gefnogi myfyrwyr sy鈥檔 astudio鈥檙 Gymraeg fel rhan o radd sengl, gradd ar y cyd, neu radd gydanrhydedd.

Bwrsariaeth y Teulu Glynne (Gwobr Gogledd Cymru): Mae鈥檙 fwrsariaeth hon hyd at uchafswm o 拢1250 yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio, gydag uchafswm o wyth gwobr ar gael.

I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr naill ai (1) fod wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg, neu鈥檔 (2) byw fel rheol yn un o'r siroedd canlynol: Ynys M么n, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam.


Bwrsariaeth y Teulu Glynne (Gwobr Cymru Gyfan): Mae鈥檙 fwrsariaeth hon hyd at uchafswm o 拢500 yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio, gydag uchafswm o bum gwobr ar gael.

I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr naill ai (1) fod wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg, neu鈥檔 (2) byw fel rheol yng Nghymru.

Cwestiynau cyffredin:

  • Sut i wneud cais:
  • Pryd mae'r dyddiad cau? 31 Ionawr 2025
  • Pryd fydd y cyhoeddiadau am y bwrsariaethau yn cael eu gwneud? 听Cyhoeddir enwau ymgeiswyr llwyddiannus ddiwedd mis Mawrth/dechrau Mehefin
  • A yw hyn yn agored i fyfyrwyr rhyngwladol? Nac ydy
  • Rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth Prifysgol 亚洲色吧 arall (e.e. Ysgoloriaeth Rhagoriaeth, ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol), a ydw i'n dal yn gymwys i wneud cais? Ydych
  • Byddaf yn astudio'n rhan amser, ydw i'n gymwys i wneud cais? Ydych

Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒听cahb@bangor.ac.uk

Amodau a Chymhwystra

Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig sydd wedi gwneud cais i astudio gradd BA yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol 亚洲色吧 ac wedi mynd ymlaen i gofrestru ar y cwrs. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn un fwrsariaeth, yn daladwy yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn unig. Myfyrwyr cymwys:

  1. Rhaid eu bod yn dechrau ar eu gradd BA ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ym mis Medi 2025 mewn gradd anrhydedd sengl 'Cymraeg', 'Cymraeg (Cymraeg) gyda...', gradd cydanrhydedd 'Cymraeg (Cymraeg) a...', neu radd 'Pwnc arall gyda Chymraeg)' a gynigir gan yr Adran.
  2. Rhaid eu bod wedi cofrestru (yn llawn amser neu鈥檔 rhan amser) ar gwrs gradd cymwys (gweler * isod).
  3. Ar gyfer gwobr gogledd Cymru, byddant wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg a/neu wedi byw yng ngogledd Cymru (sef, Ynys M么n, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam).
  4. Ar gyfer y wobr Cymru Gyfan, byddant wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg a/neu wedi byw yng Nghymru.

*Rhestr o gyrsiau cymwys
Q565 Cymraeg (i ddechreuwyr) BA
Q562 Cymraeg BA
Q563 Cymraeg Proffesiynol BA
Q5WK Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol BA
Q5P5 Cymraeg gyda Newyddiaduraeth BA
QWM5 Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau BA
QW53 Cymraeg a Cherddoriaeth BA
LQ35 Cymraeg a Chymdeithaseg BA
3Q5Q Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg BA
QV51 Cymraeg a Hanes BA
QQ15 Cymraeg ac Ieithyddiaeth BA
Q5VV Cymraeg ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd BA
QMV2 Cymraeg a Hanes Cymru BA
R805 Ieithoedd Modern a Chymraeg BA
X321 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg BA
M1Q5 Y Gyfraith gyda Chymraeg LLB

Mae鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau yn falch o allu cynnig bwrsariaeth o hyd at 拢2000 i gefnogi myfyrwyr sy鈥檔 astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 fel rhan o gwrs gradd israddedig sy鈥檔 dechrau ym Medi 2025. Bydd derbynwyr llwyddiannus yn cael bwrsariaeth o hyd at uchafswm o 拢2000 yn ystod y flwyddyn astudio gyntaf. Mae uchafswm o bedair bwrsariaeth ar gael.

I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • wedi mynychu ysgol uwchradd/coleg yng Nghymru a/neu
  • yn breswylydd fel rheol yng Nghymru.

Cwestiynau cyffredin:

  • Sut i wneud cais:
  • Pryd mae'r dyddiad cau? 31 Ionawr 2025
  • Pryd fydd y cyhoeddiadau am y bwrsariaethau yn cael eu gwneud? 听Cyhoeddir enwau ymgeiswyr llwyddiannus ddiwedd mis Mawrth/dechrau Mehefin (yr union ddyddiad i'w gadarnhau)
  • A yw hyn yn agored i fyfyrwyr rhyngwladol? Nac ydy
  • Rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth Prifysgol 亚洲色吧 arall (e.e. Ysgoloriaeth Rhagoriaeth, ysgoloriaeth CCC), a ydw i'n dal yn gymwys i wneud cais? Ydych
  • Byddaf yn astudio'n rhan amser, ydw i'n gymwys i wneud cais? Ydych

Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒听cahb@bangor.ac.uk

Amodau a Chymhwystra

Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig sydd wedi gwneud cais am radd BA cymwys ym maes Llenyddiaeth Saesneg a/neu Ysgrifennu Creadigol a gynigir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau ym Mhrifysgol 亚洲色吧, ac sy鈥檔 mynd ymlaen i gofrestru arni. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn un fwrsariaeth, yn daladwy yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn unig. Myfyrwyr cymwys:

  • Rhaid i鈥檙 myfyrwyr fod yn cychwyn ar eu gradd BA ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ym Medi 2025 ym maes Llenyddiaeth Saesneg/Ysgrifennu Creadigol a gynigir yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau;
  • Rhaid i chi fod wedi cofrestru'n llawn amser neu'n rhan amser ar gwrs perthnasol*;
  • Byddwch wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg a/neu wedi byw yng Nghymru.

*Pa gyrsiau sy'n gymwys? Gwelwch y rhestr isod
8H25 Llenyddiaeth Saesneg
2P17 Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Qw34 Llenyddiaeth Saesneg a Drama
W8R8 Ysgrifennu Creadigol ac Ieithoedd Modern
QQC3 Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg
32N6 Llenyddiaeth Saesneg a Cherddoriaeth
WW38 Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol
R801 Ieithoedd Modern ac Ysgrifennu Creadigol
3QV1 Hanes a Llenyddiaeth Saesneg
C3WL Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
33PQ Astudiaethau Ffilm a Llenyddiaeth Saesneg BA
P302 Astudiaethau'r Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg BA
W801 Ysgrifennu Creadigol



Ysgoloriaeth Rosie Skelton: mynediad 2025

Mae Adran y Celfyddydau yn falch o gynnig Ysgoloriaeth Rosie Skelton, er cof am y diweddar Rosie Skelton a fu鈥檔 ffigwr blaenllaw ym mywyd cerddorol Gogledd Cymru, yn dysgu鈥檙 ffidil ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ac yn arwain Cerddorfa Symffoni鈥檙 Brifysgol am flynyddoedd lawer.

Mae鈥檙 ysgoloriaeth gerddoriaeth israddedig yn agored i feiolinwyr yn unig, ac mae dyfarniad o 拢1000. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn perfformio mewn datganiad yn ystod y flwyddyn academaidd. Un dyfarniad sydd ar gael. Rhaid i鈥檙 ymgeiswyr cymwys:

  • fod wedi gwneud cais a mynd ymlaen i gofrestru ar un o鈥檙 graddau anrhydedd sengl mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧 (yn benodol BA Cerddoriaeth neu BMus Cerddoriaeth)
  • fod yn feiolinydd hyd at safon o leiaf Gradd 7 ABRSM, neu gyfwerth
  • ddechrau ar gwrs ym Mangor fis Medi 2025 (nid yw ceisiadau mynediad gohiriedig yn gymwys)

Sut mae gwneud cais am yr ysgoloriaeth? Does dim angen gwneud cais. Caiff ymgeiswyr cymwys BA Cerddoriaeth a BMus Cerddoriaeth eu hystyried yn awtomatig pan g芒nt eu gwahodd i gyfweliad. Gofynnwn i chi gyflwyno recordiad ohonoch yn chwarae darn (neu symudiad(au) ohono) 10 munud o hyd ar y mwyaf. Does dim cyfyngiadau o ran y genre na鈥檙 cyfnod ac ati.

Yn agored i鈥檙 canlynol: Ymgeiswyr y Deyrnas Unedig (Cartref). (Ymgeiswyr rhyngwladol ac UE cysylltwch 芒 ni i wirio cymhwystra.)


Rhagor o wybodaeth: Cysylltwch 芒 cerddoriaeth@bangor.ac.uk

Mae鈥檔 bleser gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau gynnig nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr sy鈥檔 astudio Drama, Theatr a Pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Ysgolheigion Edwin Williams yn derbyn 拢5,000 bob blwyddyn o鈥檜 gradd (ar raglen tair blynedd).听

Ariennir yr ysgoloriaethau trwy gymynrodd hael Rene Myddleton Williams, gweddw Edwin Williams (1918-2003), i anrhydeddu ei enw ac i hybu astudio a pherfformio drama ac astudiaethau theatr trwy gyfrwng y Gymraeg. Graddiodd Edwin o Fangor yn 1939 ac aeth ymlaen i ddysgu Celf a Thechneg Ddramatig yng Ngholeg y Normal 亚洲色吧, lle bu hefyd yn bennaeth Drama. 听

Cymhwystra

I fod yn gymwys rhaid i chi:

  • Fod yn dilyn un o'r pedair rhaglen Ddrama cydanrhydedd isod,
    • WW34 Cerddoriaeth a Drama 听
    • P43W Ffilm a Drama 听
    • QW34 Llenyddiaeth Saesneg a Drama 听
    • P31W听Cyfryngau a Drama 听听
  • Rhaid i chi gymryd y modiwlau Drama o leiaf trwy gyfrwng y Gymraeg. 听
  • Cychwyn eich cwrs ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn fis Medi 2025.

Y Broses Ymgeisio

Gofynnir i chi ddarparu crynodeb o'ch profiad a'ch dyheadau i鈥檙 dyfodol, yn ogystal 芒 s么n pam eich bod wedi dewis astudio Drama ym Mangor. Rhaid cyflwyno鈥檙 ffurflen gais yn Gymraeg. 听

Mae Ysgol Busnes 亚洲色吧 yn falch iawn o gynnig bwrsariaeth a gynhigir gan yr ICAEW Foundation i un myfyriwr israddedig.

Bwrsariaeth israddedig yw hon sy鈥檔 agored ddim ond i fyfyrwyr sy'n astudio BSc Cyfrifeg a Chyllid sy鈥檔 werth 拢12,000, sef 拢4,000 bob blwyddyn am 3 blynedd. Dim ond un bwrsariaeth y gellir ei chynnig. I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr fod:

  • wedi gwneud cais ac wedi mynd yn eu blaenau i ymrestru ar y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
  • yn byw mewn aelwyd lle mae incwm trethadwy鈥檙 aelwyd yn 拢25,000 neu lai.
  • yn dechrau ar eich cwrs ym Mangor ym mis Medi 2025 (nid yw ceisiadau lle mae mynediad wedi ei ohirio yn gymwys)

Sut mae gwneud cais am yr ysgoloriaeth?听Bydd modd gwneud cais unwaith yr ydych wedi ymrestru ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Bydd pob ymgeisydd cymwys ar y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid yn cael eu hysbysu'n awtomatig y dylent lenwi ffurflen gais.

Agored i:听Ymgeiswyr o鈥檙 Deyrnas Unedig (Cartref) yn unig.

Gwybodaeth bellach: Cysylltwch 芒 cahss@bangor.ac.uk

Cronfa Caledi

Ydych chi'n fyfyriwr cartref sydd wedi'i gofrestru yn y DU neu'r UE ac yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r sefyllfa Coronafirws bresennol?

Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalennau Cyngor Ariannol.