Mae Bwrsariaethau Cychwyn o 拢1,000 yr un ar gael i fyfyrwyr (dan 25 oed) sy'n dod i'r Brifysgol o ofal, fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio o'u teuluoedd neu unigolion oedd yn ddi-gartref yn union cyn dechrau eu hastudiaethau.
Bwriad y Bwrsariaethau Cychwyn yw talu am y llyfrau, y cyfarpar, y teithio a'r cymhorthion astudio sy'n gysylltiedig 芒'r cwrs. Unwaith yn unig yn ystod y flwyddyn gyntaf ym Mangor y bydd y bwrsariaethau hyn yn cael eu talu. Nid oes rhaid eu talu'n 么l.
Mae 2 gyswllt a enwir ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yng Ngwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol, a nhw yw'r aelod o staff dylech droi ato i gael help a chyngor ar eich taith i mewn a thrwy Addysg Uwch. Gall Huw neu Wendy roi mwy o fanylion i chi ar bob agwedd or ddarpariaeth cymorth y Brifysgol - cyn i chi gychwyn eich cwrs ac wrth astudio yma.
Cysylltwch 芒 Huw neu Wendy ar 01248 38 3707 / 3637 neu e-bost听studentsupport@bangor.ac.uk.
Cliciwch yma ar wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn y Brifysgol.
听