Darlithoedd Cyhoeddus ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É: mae amrywiaeth eang o bynciau
Yn eu plith mae astroffiseg a chwedlau hynafol, deallusrwydd artiffisial a chrefft adrodd straeon. Mae ein cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn rhychwantu llawnder gwybodaeth ddynol yn ei holl agweddau. Mae’n siŵr y bydd rhywbeth i danio brwdfrydedd pawb.
Cewch wrando’n uniongyrchol ar academyddion adnabyddus, awduron arobryn, ac arweinwyr o fyd diwydiant - yr union bobl sy'n llunio'r dyfodol. Cewch gymryd rhan mewn trafodaethau bywiog, gofyn cwestiynau llosg, a chael golwg unigryw ar bethau gan rai sy’n flaenllaw yn eu meysydd.
Mae’r Darlithoedd Cyhoeddus yn agored i bawb – myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, aelodau o’r gymuned, a meddylwyr chwilfrydig o bob oed.
Mae pob un o’r Darlithoedd Cyhoeddus AM DDIM.
Barod i gael golwg? Gweler y Darlithoedd Cyhoeddus
Dysgwch unrhyw bryd, unrhyw le - archwiliwch ddarlithoedd y gorffennol yn ôl y galw
Ìý
Rydym wedi creu llyfrgell ar-lein bwrpasol o Ddarlithoedd Cyhoeddus y gorffennol, i’w gweld ar YouTube fel y gallwch danysgrifio a bod y cyntaf i wybod pan fydd recordiad newydd ar gael.