Cofrestr Polisïau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Dod o hyd i Bolisi, Gweithdrefn neu Nodyn Cyfarwyddyd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Amcan y safle hwn yw rhoi lle i gadw polisïau’r brifysgol. Diffinnir polisi prifysgol fel polisi y gellir ei gymhwyso’n gyffredinol drwy’r brifysgol, sy’n helpu i sicrhau cydymffurfiad cydlynol â deddfau a rheoliadau perthnasol; yn hyrwyddo gweithredu effeithlon; yn hybu cenhadaeth y brifysgol; ac yn lleihau risg i’r sefydliad. Mae’r safle hwn yn cynnwys Polisïau, Gweithdrefnau, a dogfennau cysylltiedig eraill a gymeradwywyd gan y Cyngor neu gan awdurdodau dirprwyedig, megis Canllawiau, Rheoliadau, Codau Ymarfer, Fframweithiau, Safonau a Chynlluniau.
Mae llawer o bolisïau pwysig colegau, ysgolion, adrannau neu wasanaethau canolog yn ateb dibenion tebyg ond maent yn benodol i’r uned ac felly nid ydynt wedi eu cynnwys ar y wefan hon.
Dylai colegau, ysgolion, adrannau neu wasanaethau canolog y brifysgol ddarparu cyswllt â’r wefan hon yn hytrach na chreu eu tudalennau eu hunain ar gyfer polisïau’r brifysgol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn y brifysgol yn cyfeirio at fersiynau diweddaraf y polisïau.
Mae’r storfa ganolog ar-lein hon ar gyfer polisïau, gweithdrefnau a metadata cysylltiedig y sefydliad:
- yn hwyluso mynediad at ddogfennau allweddol i staff a myfyrwyr;
- yn sicrhau rheolaeth dros fersiynau; ac yn hwyluso’r gwaith o fonitro ac adolygu dogfennau allweddol;
- yn ddull o sicrhau ansawdd – cymeradwyaeth y sefydliad a chydymffurfiad â deddfwriaeth;
- yn cynorthwyo gyda gofynion archwilio mewnol ac allanol e.e. yr (QAA), (HEFCW);
- ac yn gymorth allweddol i gydymffurfio â gofynion Rhyddid Gwybodaeth;
Fframwaith Datblygu Polisi
Pwrpas y Fframwaith Datblygu Polisi yw gosod disgwyliadau clir ar gyfer ysgrifennu polisïau ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, a chreu dull gweithredu cyffredin o ran datblygu, gweithredu a rheoli holl bolisïau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Anogwn berchnogion ac awduron polisïau i ddefnyddio’r Fframwaith, a’r templed sydd yma, ar gyfer polisïau hen a newydd. Gellir cael arweiniad gan Colin Ridyard yn y Gwasanaethau Llywodraethu.
Eitemau heb eu cynnwys
Os ydych yn gwybod am Bolisi, Gweithdrefn neu Nodyn Cyfarwyddyd prifysgol nad yw wedi’i gynnwys yn y Gofrestr ar hyn o bryd, cysylltwch â Colin Ridyard yn Gwasanaethau Llywodraethu: mhsa08@bangor.ac.uk