Am ein Hymchwil
Mae ymchwil arloesol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sy'n cael ei sbarduno gan effaith, yn mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw.
Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, a gyhoeddir yn 2022, yn cydnabod bod mwy na 85% o ymchwil Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É naill ai gyda’r gorau yn y byd neu'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Rydym hefyd yn y 30 Uchaf yn y DU am ddangos effaith ein hymchwil ar y byd go iawn.
Ein gweledigaeth o ran ymchwil ac effaith yw bod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang mewn cynaliadwyedd, ac mae’r brifysgol yn ymdrin â chynaliadwyedd mewn modd unigryw a chyfannol sy'n cyd-daro â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Fel sefydliad sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil rydym yn blaenoriaethu buddsoddi mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol a wneir eisoes ar raddfa fawr neu a fydd felly yn y dyfodol, sy’n cyd-fynd â chynaliadwyedd, ac sy’n ymdrin â chwestiynau byd-eang heriol. Mae hyn yn ei dro yn arwain at addysgu ysbrydoledig dan arweiniad ymchwil sy’n adlewyrchu cyfraniad prifysgolion at greu gwybodaeth newydd.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: Ynni a'r amgylchedd; Iechyd, lles ac ymddygiad; ac Iaith, diwylliant a chymdeithas.
Mae ein hymchwil yn seiliedig ar glystyrau o feysydd pwnc eang wedi eu rhannu rhwng tri choleg y Brifysgol.
Mae ein hymchwil yn seiliedig ar glystyrau o feysydd pwnc eang wedi eu rhannu rhwng tri choleg y Brifysgol.
Beth yw'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil?
Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 yn mesur ansawdd ymchwil ar draws prifysgolion y Deyrnas Unedig.
Caiff ymchwil Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ei ategu gan ffocws ar gynaliadwyedd, ac mae’n darparu buddion cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol, iechyd a lles, gan weithio gydag ystod o bartneriaid i sicrhau effaith ac arloesedd.
Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, a gyhoeddir yn 2022, yn cydnabod bod mwy na 85% o ymchwil Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É naill ai gyda’r gorau yn y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol.
Caiff y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ei gynnal ar y cyd gan bedwar corff cyllido addysg uwch y Deyrnas Unedig: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon. Maent yn defnyddio’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i lywio sut mae dyrannu £2 biliwn o gyllid ymchwil bob blwyddyn.
Gellir gweld astudiaethau achos effaith Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yma:
Astudiaethau Achos REF 2021
Cewch weld ein holl Astudiaethau Achos Effaith REF 2021 ar ein tudalennau Themâu Ymchwil:
Newyddion Ymchwil
Erthyglau Diweddaraf
Gweld MwyErthyglau Cyhoeddedig
Mae ein hymchwilwyr yn cyhoeddi ar draws amrywiaeth eang o bynciau ac ar draws amrywiaeth o lwyfannau newyddion gan gynnwys The Conversation.
Ymchwil Ôl-raddedig
Mae ein hymchwil arloesol yn atgyfnerthu ein cwricwlwm sy'n newid yn barhaus ac yn helpu i wella ein cyd-ddealltwriaeth o'r byd o'n cwmpas.