ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Israddedigion Newydd ar gyfer mynediad yn 2025

Fel myfyriwr israddedig llawn-amser, bydd gennych ddau brif gost:

  • Eich ffioedd dysgu
  • Eich costau byw

Y newydd da ydi y gellwch chi gael cymorth ar gyfer y ddwy gost yma gan fod amrywiaeth eang o gymorth ariannol ar gael.

Bydd gwybodaeth am ffioedd mynediad 2025 ar gael yma yn fuan. Bydd y Brifysgol yn hysbysu pob ymgeisydd a myfyriwr am y lefelau ffioedd a reoleiddir ar gyfer 2025/26 ac unrhyw gynnydd ar gyfer blynyddoedd astudio olynol cyn gynted ag y derbynnir cadarnhad o uchafswm y ffi a reoleiddir y gan Lywodraeth Cymru, a chyhoeddwn ddiweddariadau ar y wefan. I gael syniad o'r hyn i'w ddisgwyl, y ffi ddysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig newydd, llawn-amser a ddechreuodd ym mis Medi 2024 oedd £9,000.

Y peth pwysig i'w gofio am y ffioedd dysgu yw nad oes raid i fyfyrwyr y DU dalu’r ffi ddysgu ymlaen llaw – rydych chi'n astudio yn gyntaf ac yn talu’n ôl pan fyddwch chi'n ennill cyflog. Nid oes rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu ymlaen llaw neu tra’ch bod chi’n astudio (er y gallwch chi wneud hynny os ydych chi eisiau). Gohirir y taliad tan ar ôl i chi raddio a byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad o’r Ebrill ar ôl i chi raddio. Dim ond pan fyddwch yn ennill cyflog dros y trothwy ad-dalu y byddwch yn dechrau ad-dalu.

Dewiswch o'r opsiynau isod i gael gwybodaeth fanylach am y cyllid sydd ar gael i chi.

Bydd pob myfyriwr cymwys o Gymru yn derbyn Grant Cynhaliaeth o £1,000 y flwyddyn. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am Grant Cynhaliaeth ychwanegol ar sail prawf modd. Bydd y swm yn dibynnu ar incwm yr aelwyd, gyda mwy o gymorth i’r bobl sydd ei angen fwyaf.

Ym Mangor gallwch hefyd wneud cais am ²â²õ²µ´Ç±ô´Ç°ù¾±²¹±ð³Ù³ó²¹³ÜÌýamrywiol a allai helpu gyda'ch costau byw.

Os byddwch chi'n chwilio am waith rhan-amser yn ystod y gwyliau ac/neu yn ystod y tymor i helpu gyda'ch costau, gall CyswlltGyrfa ÑÇÖÞÉ«°É eich helpu i gael hyd i waith rhan-amser. Mae yna hefyd cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael drwy’r Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd fydd yn cyfoethogi eich CV a’ch helpu i gael swydd ar ôl i chi raddio. Gallai cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É hefyd wneud gwahaniaeth i'ch rhagolygon am swydd ar ôl graddio.

Myfyrwyr yn astudio a chymdeithasu yn y Ganolfan Rheolaeth

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Gwybodaeth am ysgoloriaethau a bwrsariaethau.