Cyllid i fyfyrwyr rhan-amser
Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhan-amser – 2024/25
Os ydych yn fyfyriwr rhan amser mewn addysg uwch, mae cymorth ariannol ar gael tuag at eich ffioedd a chostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.
Costau Ffioedd Dysgu
Gallai myfyrwyr rhan-amser neu myfyrwyr sy’n dysgu o bell sy’n cychwyn ar eu cwrs ym Medi 2024 gael Benthyciad Ffioedd Dysgu i helpu i dalu am eu ffioedd dysgu
- Mae Benthyciad Ffioedd Dysgu o £2,625 ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy’n mynychu SAU.
- Os fydd ffi dysgu a godir gan y Brifysgol ²Ô±ð³Ü’r Coleg yn fwy na’r Benthyciad Ffioedd Dysgu sydd ar gael, yna bydd rhaid i chi ariannu’r gwahaniaeth eich hun. Gallwch dalu’r gwahaniaeth mewn rhandaliad wrth astudio. Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch dalu eich ffioedd dysgu, os ydych chi’n dewis gwneud hynny, neu unrhyw ffioedd prifysgol arall fel llety, ewch i safle we Swyddfa Gyllid.
- Rhaid i chi hefyd fod yn astudio 25% dwysedd cwrs o leiaf i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu.
- Nid yw’r Benthyciad Ffioedd Dysgu yn ddibynnol ar incwm y teulu. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr sydd wedi astudio ar lefel Addysg Uwch yn y gorffennol gysylltu â i wirio eu hawl.
- Mae Benthyciadau Ffioedd Dysgu yn ad-daladwy ar ôl i chi adael y brifysgol a dechrau ennill dros £27,295 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Mae’r gyfradd llog yn gysylltiedig â chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu). Am ragor o wybodaeth am ad-dalu’ch benthyciad, ewch i’r wefan ganlynol:
- Gallwch dalu eich ffioedd wrth astudio. Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch dalu eich ffioedd dysgu, os ydych chi’n dewis gwneud hynny, neu unrhyw ffioedd prifysgol arall fel llety, ewch i safle we Swyddfa Gyllid.
Cyllid ar gyfer myfyrwyr sy’n Byw yng Nghymru:
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
- Bydd pob myfyriwr israddedig llawn amser cymwys sy’n byw yng Nghymru yn derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth Cymru – hyd at £750 dibynnol ar ddwyster y cwrs
- Gall myfyrwyr o Gymru hefyd wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ychwanegol. Bydd y grant ychwanegol yn cael ei asesu ar incwm trethadwy cartref y myfyriwr a dwyster y cwrs.
- Nid fydd raid i chi dalu’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn nol ar ôl graddio.
Benthyciad Cynhaliaeth
- Mae Benthyciad Cynhaliaeth ar gael i’ch helpu gyda chostau byw fel llyfrau, dillad a theithio. Daw’r arian yma gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
- Bydd incwm trethadwy eich cartref a dwyster eich cwrs yn penderfynu faint o fenthyciad byddwch yn ei dderbyn.
- Caiff benthyciadau eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad – un ar ddechrau pob tymor.
- Mae’n rhaid i fenthyciad cynhaliaeth gael ei ad-dalu unwaith y byddwch wedi gorffen eich cwrs ac yn ennill mwy na £27,295 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Fel rheol bydd eich cyflogwr yn tynnu’r arian o’ch cyflog trwy’r system dreth PAYE, yn yr un ffordd a threth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Byddwch yn ad-dalu ar gyfradd o 9% o unrhyw swm a enillwch dros £27,295 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Am ragor o wybodaeth am ad-dalu’ch benthyciad, ewch i’r wefan ganlynol:
Defnyddiwch y tabl yma i weithio allan eich hawl:
|
75% dwyster i gymar a chwrs llawn amser |
50% dwyster i gymar a chwrs llawn amser |
||||
Taxable Household Income |
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
|
Benthyciad Cynhaliaeth |
Cyfanswm Grant & Benthyciad |
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru |
Benthyciad Cynhaliaeth |
Cyfanswm Grant & Benthyciad |
£25,000 or under |
£4,500 |
£2,224 |
£6,724 |
£3,000 |
£1,483 |
£4,483 |
£35,000 |
£3,404 |
£3,320 |
£6,724 |
£2,270 |
£2,213 |
£4,483 |
£45,000 |
£2,308 |
£4,416 |
£6,724 |
£1,539 |
£2,944 |
£4,483 |
£59,200 |
£750 |
£5,974 |
£6,724 |
£500 |
£3,983 |
£4,483 |
Astudiaeth Flaenorol mewn Addysg Uwch
Os oes gennych eisioes radd, ni chewch gyllid tuag at astudiaeth ran-amser.
Os ydych eisioes wedi dilyn cwrs AU llawn-amser ond heb gael gradd, efallai y cewch gyllid tuag at gwrs rhan-amser newydd.
Cysylltu â ²Ô±ð³Ü’r Uned Cymorth Ariannol i wirio eu hawl.
Sut i wneud cais a phryd
Gellwch ar y we neu drwy lawrlwytho ffurflen gais oddi ar Cyllid Myfyrwyr Cymru
Bydd porth gwneud cais a ffurflenni cais ar gael o Fawrth 2024.
Cymorth Ariannol Ychwanegol
Lwfans Myfyriwr Anabl
Gall myfyrwyr rhan-amser ag anableddau, cyflyrau iechyd tymor-hir neu anawsterau dysgu penodol sy’n astudio o leiaf 25% o gwrs llawn-amser, yn cynnwys myfyrwyr dysgu o bell, fod â hawl i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Gall DSA dalu’r costau ychwanegol sydd gennych (yng nghyswllt astudio ar gyfer cwrs AU) sy’n deillio’n uniongyrchol o’ch anabledd, eich salwch neu’ch anhawster dysgu penodol. Nid yw DSA yn dibynnu ar eich incwm nac ar incwm eich teulu, a bydd yn rhaid ei ad-dalu ar ddiwedd eich astudiaethau. I wneud cais am DSA, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais ychwanegol, sef DSA1, y gellwch ei lawrlwytho o’r wefan a restrwyd eisoes.
Am fwy o wybodaeth, cymorth a chyngor, dylech fynd i wefan ein Gwasanaeth Anabledd.
Lwfans Dysgu i Rieni – PLA
Os oes gennych blant dibynnol, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am y Lwfans Dysgu i Rieni.
- Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar incwm eich cartref ac ar ddwysedd eich astudiaeth – lleiafswm o 50%.
- Ni fydd yn rhaid ichi ad-dalu’r lwfans hwn ar ddiwedd eich astudiaethau.
Grant Gofal Plant
Mae’n helpu gyda chostau gofal plant os oes gennych blant dibynnol mewn gofal cofrestredig neu gydnabyddedig ar gyfer plant.
- Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar incwm trethadwy eich cartref ac ar ddwysedd eich astudiaeth – lleiafswm o 50%.
- Ni fydd yn rhaid ichi ad-dalu’r lwfans hwn ar ddiwedd eich astudiaethau.
Grant Oedolion Dibynnol – ADG
Os oes gennych gymar neu oedolyn arall yn ddibynnol arnoch yn ariannol, gellwch wneud cais am y Grant Oedolion Dibynnol.
- Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar incwm eich cartref ac ar ddwysedd eich astudiaeth – lleiafswm o 50%.
- Ni fydd yn rhaid ichi ad-dalu’r lwfans hwn ar ddiwedd eich astudiaethau.
I wneud cais am y cymorth ariannol ychwanegol, Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru’n anfon y ffurflenni priodol atoch, neu gellwch eu lawr lwytho yma: