Mwy o wybodaeth
Mae cymorth a chefnogaeth ar ystod eang o faterion ar gael ar ein safle ‘Gwasanaethau Myfyrwyr’ cysylltiedig.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, cysylltwch â ni inclusive@bangor.ac.uk
Cymuned Gynhwysol Ein Prifysgol
Gyda myfyrwyr yn dod o bob rhan o'r byd ac o gefndiroedd gwahanol iawn, bwriad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yw creu amgylchedd i chi fyw ac astudio sy'n sicrhau y gallwch fod yn chi eich hun, cymryd mantais o bob cyfle a chyrraedd eich llawn botensial.
Ym Mangor byddwch yn cwrdd â phobl o bob cymuned y gallech feddwl amdanynt. Bydd eich cyd-fyfyrwyr yn ddiddorol, yn greadigol ac yn eich herio i feddwl. Bydd ganddynt safbwyntiau gwahanol i chi a gallent herio sut yr ydych chi yn gweld y byd. Trwy gyfrwng y profiadau y byddwch yn eu rhannu fel rhan o fywyd prifysgol, rydym yn ceisio sicrhau y gall pob myfyriwr ymhyfrydu yn eu cymuned amrywiol a dysgu cymaint â phosibl yn ystod eu hamser ym Mangor.
Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant yn fwy na dim ond polisi. Mae ein hymrwymiad yn ymarfer bob dydd er mwyn sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael croeso, yn cael eich gwerthfawrogi a bod gennych fynediad cyfartal at wasanaethau cefnogi.
Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am y ffyrdd yr ydym ni yn cynnal ac yn gwella cymuned gynhwysol ÑÇÖÞÉ«°É ac yn cynnwys cyfeiriadau at gefnogaeth a chyngor a gwybodaeth ynglÅ·n â sut yr ydym yn hyrwyddo cydraddoldeb a manylion am sut yr ydym yn cynnal campws diogel.
Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr
O fewn y Gwasanaeth Lles yn y Gwasanaethau Myfyrwyr, mae'r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr yn canolbwyntio ar roi'r arferion gorau ar waith ar draws y brifysgol o ran atal aflonyddu ar fyfyrwyr a rhoi cefnogaeth pan fo hynny'n digwydd ac mae yn gyswllt canolog arbenigol i fyfyrwyr.
Helen Munro - Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr
Rathbone, Ffordd y Coleg, ÑÇÖÞÉ«°É, LL57 2DG
E-bost: h.munro@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 388021