Cyfrinachedd
Rydym yn annog myfyrwyr i rannu gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd, yn cynnwys gofynion iechyd meddwl, i'n galluogi i dynnu sylw at y gefnogaeth a'r cyllid sydd ar gael, yn ogystal â thrafod unrhyw ofynion cefnogaeth neu addasiadau rhesymol fydd gennych tra ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Cytunir ar addasiadau rhesymol gyda chi ac fe'u hamlinellir mewn Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP).
Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu â ni ynghylch eich anabledd, iechyd neu les yn cael ei thrin fel data personol sensitif dan Deddfwriaeth Diogelu Data ac fe'i cedwir yn gyfrinachol i Gwasanaethau Anabledd. Caiff gwybodaeth berthnasol ei throsglwyddo i eraill yn y Brifysgol gyda'ch caniatâd pendant, a dim ond wedyn ar sail ‘angen i wybod’ er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth a'r addasiadau y cytunwyd â chi yn eich CCDP yn cael eu gweithredu. Bydd unrhyw aelod staff sy'n ymwybodol o'ch anabledd o ganlyniad i'ch CCDP, neu wybodaeth gan Gwasanaethau Anabledd, yn trin y wybodaeth hon yn unol â'r Deddfwriaeth Diogelu Data. Os oes gennych unrhyw bryderon o fath yn y byd am y broses hon, mae croeso i chi eu trafod gydag Ymgynghorydd Gwasanaeth Anabledd.
Cadw cofnodion
Bydd Gwasanaethau Anabledd yn cadw eich manylion personol mewn cronfa ddata, na ellir mynd iddi heb gyfrinair, ar weinydd diogel yn y Brifysgol ac yn unol â'r Deddfwriaeth Diogelu Data. Dim ond staff Gwasanaethau Anabledd gaiff fynd at y data hyn. Cedwir dogfennau papur mewn cypyrddau diogel. Rydym yn gweithredu trefn cael gwared ar wybodaeth er mwyn sicrhau na chedwir data am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol.
Mae angen i’r Brifysgol gyflwyno data'n ymwneud ag anabledd i'r Cyngor Cyllido ar ffurf ystadegol yn unig (data HESA). Nid oes unrhyw wybodaeth a fyddai'n datgelu pwy yw myfyriwr unigol yn cael ei chynnwys yn y data.
Dyletswydd Gofal
Mewn amgylchiadau eithriadol iawn bydd dyletswydd gofal yn gorbwyso ein dyletswydd i gadw cyfrinachedd ac mewn achosion o'r fath gellir datgelu peth gwybodaeth i rywun arall (e.e. meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu'r heddlu). Dyma'r amgylchiadau lle gallem orfod torri cyfrinachedd:
-
pryder bod perygl i'r unigolyn achosi niwed difrifol iddynt eu hunain neu i eraill;
-
lle gallai'r Cynghorwr wynebu achos mewn llys sifil neu droseddol pe na bai'r wybodaeth yn cael ei datgelu.
Gwybodaeth bellach
Mae polisïau ar gyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd i'w cael yn y Cod Ymarfer ar Ddarpariaeth i Fyfyrwyr Anabl.
Mae polisïau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gadw cofnodion i'w cael yma.
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau'n ymwneud â chyfrinachedd a sut y rhennir gwybodaeth, anfonwch e-bost at gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383620 / 382032 i drefnu apwyntiad i weld un o'r Cynghorwyr.
Wedi'i ddiweddaru 26.01.2021