Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
Tîm y Gaplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
Croeso i dudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Tîm Caplaniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ac yn gweithio gyda nhw ar gael i bobl gysylltu â nhw, sgwrsio a chael sgwrsio fideo trwy Microsoft Teams. Mae holl aelodau’r Tîm ar gael i roi cefnogaeth fugeiliol neu gyngor unigol i staff a myfyrwyr
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r fideo bach yma - 'Tîm Caplaniaeth - Y Ffilm' fel cyflwyniad i'r Tîm a beth rydyn ni'n ei gwneud.
Diffiniadau o beth yw caplan a chaplaniaeth
Caplan
Caplan yw rhywun a benodir gan gorff crefyddol i weithio mewn maes neu sefydliad penodol (ac a gydnabyddir/cymeradwyir gan y sefydliad hwnnw) i ddarparu gofal bugeiliol, cymorth ysbrydol a chefnogaeth grefyddol i’w aelodau, ac i roi cyngor ar faterion ffydd lle bo’n briodol i'r sefydliad a'i aelodau.
Caplaniaeth
Y gwasanaeth a ddarperir gan gaplan, neu dîm caplaniaeth, i fynd i’r afael ag anghenion bugeiliol, crefyddol ac ysbrydol y sefydliad a’i aelodau. Gall hyn gynnwys gweithgareddau sy’n benodol i’r grŵp ffydd y mae’r caplan yn perthyn iddo, ond sydd ar gael i bawb, waeth beth fo’u ffydd neu ddiffyg cred.
NEU
Y lleoliad y mae caplaniaid, neu dîm caplaniaeth, yn gweithio ohono - a all hefyd ddarparu man gweddïo, addoli neu gymdeithasol.
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch a'r canlynol:
Enw | Swydd |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |