Cyngor Da i Fyfyrwyr
- Gwnewch ffrindiau gyda'ch cyd-fyfyrwyr: mae hyn yn dda nid yn unig i gymdeithasu ond byddwch hefyd yn dysgu o'u gwahanol feysydd sgiliau a safbwyntiau/agweddau. Efallai byddwch hyd yn oed yn dod o hyd i rywun yn eu plith i warchod eich plant (os oes angen rhywun arnoch chi!)
- Byddwch yn drefnus a gwnewch ddefnydd da o'ch amser: ceisiwch drin eich astudiaethau fel swydd - gwnewch amserlen astudio sy'n addas i chi a chadw ati. Cofiwch gynnwys dipyn o amser i chi eich hun.
- Gwnewch rywfaint o ymarfer corff er mwyn cydbwyso'r amser byddwch yn dreulio yn darllen - parciwch eich car yn bellach nag sydd rhaid er mwyn cerdded dipyn.
- Cyrhaeddwch yn gynnar i gael lle parcio: a pheidiwch â symud eich car amser cinio neu chewch chi ddim lle i barcio wedyn. Cofiwch brynu trwydded barcio!!
- Defnyddiwch y llyfrgell: nid yn unig i ddod o hyd i adnoddau, ond mae'n lle da i astudio rhwng dosbarthiadau a gallwch ddefnyddio'r mannau dysgu cymdeithasol ar gyfer gwaith grŵp.
- Cymerwch ran mewn gweithgareddau allgyrsiol : nid astudio yn unig yw bywyd prifysgol. Cymerwch ran mewn cymaint o gyfleoedd â phosib: Clybiau a chymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr, bod yn arweinydd cyfoed, sesiynau dysgu cyfoedion yn eich ysgol academaidd, profiad gwaith sy'n berthnasol i'ch amcanion gyrfa - maent i gyd hefyd yn ennill pwyntiau i chi tuag at Wobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É!
- Gwneud ffrindiau gyda'r staff: - yn staff academaidd a staff gweinyddol. Peidiwch â bod ofn siarad â'r staff, mae hyn yn ei gwneud yn haws
- Gofyn cwestiynau
mawr neu fach, academaidd neu gyffredinol, nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion. Bydd yn gwneud bywyd yn haws i chi gael atebion i'r holl bethau hynny rydych eisiau gwybod amdanynt. - Edrychwch ar y bwrsariaethau: mae arian ychwanegol bob amser yn ddefnyddiol ac mae nifer ohonynt ar gael: er enghraifft i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, rhai sy'n astudio trwy'r Gymraeg neu sy'n gorfod mynd ar daith maes. Gweler /studentfinance/info/additional-bursaries.php.en
- Defnyddiwch y gwasanaethau cefnogi: mae pawb angen ychydig o help pob hyn a hyn, felly ewch draw i Rathbone. Mae amrywiaeth o help cyfeillgar ar gael yno, er enghraifft help i drefnu prawf dyslecsia, problemau gyda chyllid myfyrwyr, aseiniad trafferthus neu os byddwch yn teimlo dan straen. Am ragor o wybodaeth, ewch i: /studentservices/