Mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr & Gweinyddu wedi ymrwymo i ddatblygu eu gwasanaethau'n barhaus mewn ymateb i sylwadau chi. Isod rhestrir rhai enghreifftiau diweddar o'r ffordd rydym wedi gwella ein gwasanaethau mewn ymateb i sylwadau gan staff a myfyrwyr.
Canolfan Access
- Fod amseroedd aros am Adroddiad Anghenion Astudio gan y Ganolfan Access yn rhy hir.
- Torasom amseroedd aros am apwyntiad o 50% (o 23 i 11 o ddiwrnodau gwaith) a’r amser a gymer cyn cael Adroddiad Anghenion Astudio o 30% (o 10 i 7 o ddiwrnodau gwaith).
- Ei bod yn anodd dod o hyd i unrhyw le oedd yn gwerthu troshaenau lliw
- Eu cyflwyno i'n siop ar-lein
Gwasanaeth Anabledd
- Mwy o hyblygrwydd wrth gynnig cefnogaeth sgiliau astudio arbenigol un-i-un y tu allan i oriau 9-5 arferol i fyfyrwyr ar leoliad.
- Cynnig gwasanaeth y tu allan i oriau arferol ar nosweithiau Mercher tan 7pm.
- Cymorth gyda mathemateg ac ystadegau.
- Tiwtor Mathemateg penodedig ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol ar gael yn llawn-amser trwy gydol y flwyddyn.
- Darparu sesiynau ar yr un diwrnod.
- Cyflwyno gwasanaeth galw-heibio bob dydd 12-1 yn ystod amser tymor yn cynnwys cefnogaeth Fathemateg a chefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Rhannu gwybodaeth gydag ysgolion academaidd am fformatau / cynllun aseiniadau a ffurflenni gwaith cwrs cynhwysol a hygyrch.
- Mae'r Gwasanaeth Anabledd yn cymryd rhan flaenllaw yn datblygu dysgu cynhwysol ar draws Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae dysgu cynhwysol ar frig agenda'r Gwasanaeth Anabledd wrth i newidiadau i'r Lwfans Myfyrwyr Anabl ddod i rym.
- Eich bod eisiau amseroedd aros byrrach
- Cynnig sesiynau galw-heibio yn UM gyda'n Cynghorwyr Iechyd Meddwl
- Gofynnodd staff am hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth iechyd meddwl.
- Mae ein Cynghorwyr Iechyd Meddwl bellach yn hyfforddwyr achrededig mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac yn cynnig rhaglen barhaus o hyfforddiant i staff ar draws y brifysgol gydag ymateb rhagorol.
- Ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl pe bawn yn dod am gefnogaeth at ddyslecsia
- lunio taflen i egluro'r hyn rydym yn ei wneud (ar gael yma) a chynnal sesiynau blasu yn ystod yr Wythnos Groeso
- Mwy o argaeledd
- Rydym wedi cyflogi 2 aelod o staff sesiynol sydd wedi dechrau cynnig cefnogaeth o'r wythnos yn dechrau 18 Ebrill 2018.
Cwnsela
- Gofynnoch am fwy o help gyda phynciau megis panig, hunanladdiad a hunan-niweidio, dicter, problemau perthynas a phendantrwydd.
- Byddwn yn canolbwyntio ar y pynciau hyn yn ein gweithdai meithrin gwytnwch, yn ein dosbarthiadau sgiliau rheoli emosiynau ac yn ein gweithdai Mi Fedra'i.
- Gofynnwyd am fwy o ddarpariaeth cynghori, un yn un, drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Yr ydym wedi penodi cynghorydd rhan-amser, rhugl yn yr iaith Gymraeg.
- Gofynnodd myfyrwyr ar leoliadau am apwyntiadau y tu allan i oriau gwaith arferol.
- Erbyn hyn, rydym ar agor ar nos Fawrth.
- Gofynasoch am amseroedd aros byrrach.
- Rydym wedi cael mwy o staff ac yn gweithredu trefn flaenoriaethu. Mae hyn wedi lleihau amseroedd aros ac wedi sicrhau mai’r rhai mwyaf anghenus a welir gyntaf.
- Gofynnodd myfyrwyr mewn gwledydd tramor neu ar leoliadau y tu allan i Fangor am ffynonellau ychwanegol o gymorth.
- Rydym wedi buddsoddi mewn pecynnau meddalwedd ar-lein ar gyfer pryder ac iselder, ac mae gennym lyfrgell fach o eitemau i’w benthyca, a’r cyfan wedi’u prynu ag arian a roddwyd o gronfa’r Alumni.
- Rydych wedi gofyn am fwy o grwpiau a gweithdai.
- Eleni, rydym wedi cynnal rhaglen gynhwysfawr o weithdai, ynghyd â chwrs Lleihau Straen ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar.
- Mae staff wedi gofyn am fwy o gyngor ynglŷn â sut y gallant gynorthwyo myfyrwyr.
- Rydym yn cynnig ymgyngoriadau ar yr un diwrnod trwy ein system cwnselwyr ar ddyletswydd, ac wedi cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno rhaglen hyfforddi ym maes iechyd meddwl i staff ar draws y Brifysgol.
Gwobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É
- Ni all pob myfyriwr fynd i apwyntiadau gyrfaoedd ar yr adegau maent ar gael a/neu yn Adeilad Rathbone
- Sicrhau bod apwyntiadau clinig ar gael pob diwrnod yr wythnos.
Sefydlu stondinau cyflogadwyedd dros dro ar draws safleoedd y brifysgol.
Sefydlu apwyntiadau Skype wythnosol pwrpasol ar-lein.
Cynnig apwyntiadau ffôn ac e-gyfarwyddyd pwrpasol. - Rydych angen mynediad i gyflogwyr cenedlaethol a rhyngwladol mawr.
- Rydym bellach wedi cynyddu nifer y bysiau sy'n mynd i ffeiriau gyrfaoedd pwysig ddwywaith y flwyddyn.
- Roedd ffair swyddi'r brifysgol yn rhy gyffredinol heb ddigon o gyfleoedd lleol i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith rhan-amser.
- Roedd ffair swyddi 2017 yn canolbwyntio ar gyfleoedd lleol yn unig - swyddi rhan-amser a phrofiad gwaith/gwirfoddoli.
- Mae angen gweithdai arnoch sy'n eich helpu i ddelio â gwydnwch meddwl, diffyg hyder a thrallod
- Rydym wedi cyflwyno teitlau gweithdy newydd sy'n ymdrin â'r pynciau hyn.
- Mae angen i weithdai fod yn fwy amrywiol yn eu harddull cyflwyno (er enghraifft, fideos), yn rhyngweithiol ac yn rhoi cyfle i ymarfer sgiliau.
- Rydym wedi cyflwyno'r rhain lle bo'n bosib ac wedi gwneud rhai gweithdai yn hwy i gynnwys cyfle i ymarfer.
Arweinwyr Cyfoed
- Dangosodd yr arolygon Arweinwyr Cyfoed bod myfyrwyr sy'n byw mewn Neuaddau eisiau mwy o amser i ddod i adnabod eu cyd-letywyr yn ystod yr Wythnos Groeso, tra gofynnodd rhai nad ydynt yn byw mewn Neuaddau am fwy o gyswllt ag Arweinwyr Cyfoed.
- Fe wnaethom gyfarfod â'r Swyddfa Neuaddau a chytunwyd i gael noson yn ystod yr Wythnos Groeso ar gyfer digwyddiadau mewn Neuaddau, a fydd yn rhoi cyfle i Arweinwyr Cyfoed ganolbwyntio ar y myfyrwyr hynny nad ydynt yn byw mewn Neuaddau.