Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr
Gall unrhyw un, ar unrhyw adeg, gael meddyliau ac emosiynau a all deimlo'n llethol. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yma i’ch helpu chi i archwilio sut yr ydych chi’n meddwl, yn ymddwyn ac yn teimlo am fater a’ch helpu chi i ddod o hyd i ffyrdd priodol o wneud newidiadau yn eich bywyd. Rydym yn wasanaeth cyfrinachol, cynhwysol gyda therapyddion cymwys wedi'u hyfforddi mewn amrywiaeth o therap茂au seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae ein gwasanaeth yn darparu llwybr cefnogol gyda model gofal fesul cam; mae hyn yn golygu y gallwch gael mynediad i ni yn gyflym a chael y cymorth mwyaf effeithiol ar gyfer eich anghenion.
Pwrpas cwnsela yw cael mewnwelediad, a gweithio tuag at wneud newidiadau yn eich bywyd. Nid yw hon yn broses gyflym na hawdd a gall fod yn heriol yn aml. Bydd disgwyl i chi ymgysylltu'n llawn a gweithio'n galed. Mae cwnsela yn addas lle mae amser i fyfyrio ar yr anawsterau presennol, ond, nid yw o reidrwydd, yn briodol pan fo angen ymateb brys mewn argyfwng. Fe welwch fanylion cyswllt ar hafan Gwasanaethau Lles Myfyrwyr ar gyfer gwasanaethau eraill a allai helpu mewn argyfwng.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau/ceisiadau apwyntiad drwy ebost i wellbeingservices@bangor.ac.uk
Mae’r Gwasanaeth Lles yma i’ch cefnogi drwy eich astudiaethau, ond os oes angen cymorth ar unwaith arnoch mewn argyfwng, cysylltwch 芒’ch meddyg teulu am apwyntiad brys neu os nad ydych yn teimlo y gallwch gadw’ch hun yn ddiogel, ffoniwch 999 neu ewch yn syth i’ch uned damweiniau ac achosion brys yn eich ysbyty agosaf.
Myfyrwyr Gwyddorau Iechyd Prifysgol 亚洲色吧 wedi eu lleoli yn ardal Wrecsam: Mae Prifysgol Glynd诺r, Wrecsam wedi’i chontractio i gynnig cefnogaeth lles i fyfyrwyr Gwyddorau Iechyd Prifysgol 亚洲色吧 sydd wedi’u lleoli yn ardal Wrecsam. Bydd mynediad trwy apwyntiad a archebwyd ymlaen llaw yn unig drwy e-bostio Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Glynd诺r ar counselling@glyndwr.ac.uk Os nad yw e-bost ar gael, gellir cysylltu dros ffon ar 01978 294421, fodd bynnag e-bost sydd orau. Yn dilyn cyswllt cychwynnol, bydd Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Glynd诺r yn cysylltu 芒 Gwasanaeth Lles Myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 i sicrhau bod y darpar gleient yn fyfyriwr cofrestredig ar hyn o bryd. |
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr yn aelod o'r Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) ac yn dilyn eu canllawiau ai polisiau ar cyfrinachedd a gwarchod data.
Ar gyfer staff, rydym yn cynnig ymgynghoriadau i'r rhai sy'n pryderu am iechyd meddwl myfyriwr trwy'r system cwnselydd ar ddyletswydd. Ceir hefyd, hyfforddiant/cymorth i ddatblygu dealltwriaeth o faterion iechyd meddwl ac ymatebion i fyfyrwyr ag anawsterau.
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Enw | Swydd |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Jack Jackson | Rheolwr Gwasanaeth Llesiant |
Helen Williams | Rheolwr Swyddfa |