Syniadau Da i Fyfyrwyr
Bob blwyddyn yn ein diwrnod cynefino i fyfyrwyr cartref, mae myfyrwyr presennol yn siarad am eu profiadau a'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu am lwyddo fel myfyriwr. Dyma ddetholiad o'r hyn rydym yn ei glywed yn rheolaidd felly mae'n rhaid ei fod yn gyngor da!
- Gwnewch ffrindiau gyda'ch cyd-fyfyrwyr: mae hyn yn dda nid yn unig ar gyfer cymdeithasu ond rydych hefyd yn dysgu o'u gwahanol feysydd sgiliau a safbwyntiau / agweddau.
- Byddwch yn drefnus a gwnewch ddefnydd da o'ch amser: trin eich astudiaethau fel swydd - gwnewch amserlen astudio sy'n addas i chi a chadw ati.
- Defnyddiwch y llyfrgell: nid yn unig i ddod o hyd i adnoddau, ond mae'n lle da i astudio rhwng dosbarthiadau a gallwch ddefnyddio'r mannau dysgu cymdeithasol ar gyfer gwaith grŵp.
- Cymerwch ran mewn gweithgareddau allgyrsiol: mae'r brifysgol yn llawer mwy nag astudio. Cymerwch ran a manteisiwch ar gymaint o gyfleoedd ag y gellwch: Clybiau a Chymdeithasau a phrojectau Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr, bod yn Arweinydd Cyfoed, sesiynau dysgu cyfoedion yn eich ysgol academaidd, profiad gwaith sy'n berthnasol i'ch amcanion gyrfa - maent i gyd hefyd yn ennill pwyntiau i chi tuag at Wobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É!
- Gwnewch ffrindiau gyda'r staff: - staff academaidd a gweinyddol. Peidiwch â bod ofn siarad â nhw ac mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i Ofyn cwestiynau - mawr neu fach, academaidd neu gyffredinol, nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion a bydd yn gwneud eich bywyd yn haws os cewch atebion i'r holl bethau yr hoffech wybod.
- Edrychwch ar y bwrsariaethau: mae ychydig o arian ychwanegol bob amser yn ddefnyddiol ac mae nifer ohonynt ar gael: er enghraifft i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, rhai sy'n astudio trwy'r Gymraeg neu sy'n gorfod mynd ar daith maes. Ewch i'r wefan hon i gael wybodaeth ychwanegol: /studentfinance/info/additional-bursaries.php.cy
- Defnyddiwch y gwasanaethau cefnogi os oes angen: mae ar bawb angen ychydig o gymorth o bryd i'w gilydd, felly eto peidiwch â bod ofn gofyn. Ewch draw i Rathbone lle mae amrywiaeth o help cyfeillgar ar gael er enghraifft helpu i drefnu prawf dyslecsia, problemau gyda chyllid myfyrwyr, aseiniad trafferthus neu rydych yn teimlo dan straen. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: /studentservices/index.php.cy
- Cyrhaeddwch yn gynnar i gael lle parcio: a pheidiwch â symud eich car amser cinio neu chewch chi ddim lle i barcio wedyn. Cofiwch brynu trwydded barcio!!