Help ar gyfer myfyrwyr newydd a darpar fyfyrwyr
Pwy yw’r Arweinwyr Cyfoed?
Myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli i helpu myfyrwyr newydd ymgynefino â bywyd prifysgol yw arweinwyr cyfoed. Maent i gyd wedi cael eu hyfforddi ac wedi darparu geirda er mwyn cynnal safon uchel yr arweinwyr cyfoed.
Oherwydd eu bod yn fyfyrwyr yma ar hyn o bryd nid yw mor hir â hynny ers iddynt ddod i’r brifysgol am y tro cyntaf eu hunain, felly maent yn gwybod sut rydych yn teimlo. Gallant eich helpu gyda llwyth o wybodaeth gyffredinol yn cynnwys ble mae’r siop agosaf a sut i weld eich amserlen.
Mae pob math o fyfyrwyr ym Mangor ac mae ein harweinwyr cyfoed yn adlewyrchu hynny gan ein bod yn recriwtio o’r sefydliad cyfan, beth bynnag eu hoedran, eu rhyw neu eu cenedligrwydd. P’un a ydych yn dod o’r DU neu o ymhellach i ffwrdd, yn eich arddegau ac yn gadael cartref am y tro cyntaf neu’n fyfyriwr aeddfed gyda chyfrifoldebau teuluol, yn byw mewn neuadd breswyl neu’n teithio yma bob dydd, bydd rhywun mewn sefyllfa debyg i chi ymysg yr arweinwyr cyfoed a fydd yn deall yr hyn rydych yn ei wynebu ac yn gallu cynnig cymorth cyfeillgar.
Yn ystod yr hyfforddiant, rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod y ffordd orau i’ch helpu chi, p’un a yw’n rhywbeth y gallant ei wneud eu hunain, neu’n eich helpu i gael gafael ar wybodaeth neu gymorth ychwanegol os oes angen.
Pan fyddwch yn cyrraedd, byddwch yn cwrdd â llawer o arweinwyr cyfoed yn y gwahanol ddigwyddiadau, ond yn y rhan fwyaf o achosion, caiff un ei neilltuo i chi a bydd yn cadw mewn cysylltiad agosach â chi.
yn ôl i’r brig
Beth i ddisgwyl gan eich Arweinydd Cyfoed
Myfyrwyr sydd wedi ymgartrefu yn y brifysgol ac sydd wedi gwirfoddoli i helpu eraill trwy’r broses honno yw arweinwyr cyfoed.
Mae pob ysgol yn gweithredu’r cynllun ychydig yn wahanol i gyd-fynd â’u hanghenion hwy. Mae rhai yn cyfyngu gweithgareddau arweinwyr cyfoed i gynulliadau mawr tra bod eraill yn tueddu i ddibynnu mwy ar grwpiau llai wedi eu dyrannu, fel bod y cyfarfodydd yn fwy personol.
Sut bynnag mae’r cynllun yn cael ei redeg yn eich ysgol academaidd chi, bydd yr arweinwyr cyfoed o gymorth mawr i chi. Yn ystod yr Wythnos Groeso, rydych yn debygol o’u gweld:
- yn y neuaddau preswyl
- mewn ysgolion academaidd yn helpu mewn amrywiol sesiynau
- mewn digwyddiadau canolog megis y croeso ffurfiol a Serendipedd
- yn tywys teithiau o amgylch yr adran, y campws a’r dref
- mewn digwyddiadau cymdeithasol
Maent yno i’ch helpu a byddant yn gwneud y canlynol:
- gwrando ar unrhyw bryderon sydd gennych – e.e. os ydych yn teimlo hiraeth, yn teimlo’n ddryslyd neu ychydig bach yn isel – mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn a dyna un o’r rhesymau pam mae’r cynllun arweinwyr cyfoed yn bodoli!
- ateb eich cwestiynau (rhai pwysig neu ddibwys!) orau y gallent. Gallent eich helpu gyda’r rhan fwyaf o bethau, yn cynnwys gwybodaeth am eich cwrs neu bethau mwy cyffredinol megis rhif cwmni tacsi neu gyfarwyddiadau i’r golchdy – ond mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bosib y byddant yn dweud nad ydynt yn gymwys i roi cyngor i chi. Os felly, byddant yn eich cyfeirio at rywun fydd yn gallu eich helpu.
- parchu eich preifatrwydd a thrin yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthynt yn gyfrinachol.
Ond nid yw bob dim yn dod i ben ar ôl yr Wythnos Groeso – rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i aros mewn cysylltiad â’ch arweinydd cyfoed a fydd yn hapus i’ch helpu gyhyd ag y bydd arnoch ei angen.
Mae gan bawb arweinydd cyfoed oni bai ein bod yn clywed fel arall. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu canfod yn ddefnyddiol iawn, ond pe bai’n well gennych beidio â chael arweinydd cyfoed, gadewch inni wybod drwy anfon e-bost i peerguiding@bangor.ac.uk .
Os nad ydych wedi cwrdd â’ch arweinydd cyfoed neu os ydych yn anhapus gyda’r un sydd gennych, siaradwch â’r cydlynydd yn eich ysgol academaidd a fydd yn ymdrin â’r mater. Os nad ydych yn gwybod pwy yw’r cydlynydd, gweler y wefan yma.
Cyfarfod â’ch Arweinydd Cyfoed?
Gall hyn amrywio gan ddibynnu ar yr ysgol academaidd byddwch yn astudio ynddi, lle’r ydych yn bwriadu byw fel myfyriwr neu hyd yn oed sut daethoch drwy’r broses recriwtio.
Dyddiau Agored
Gall y rhai ohonoch sy’n dod i ddiwrnod agored ym Mangor neu’n dod yma am gyfweliad gwrdd â rhai o’r arweinwyr cyfoed a fydd yn eich tywys o gwmpas ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n bosib y bydd un o’r rhain yn arweinydd cyfoed i chi pan fyddwch yn cyrraedd yma, ond hyd yn oed os nad yw hynny’n wir, mae’n rhoi syniad i chi o ba mor gyfeillgar a pharod i helpu ydynt.
Cyswllt cyn i chi gyrraedd
Bydd llawer o arweinwyr cyfoed yn cysylltu â myfyrwyr cyn iddynt ddod i’r brifysgol. Gall hyn fod trwy lythyr, neges destun, e-bost neu’n amlach y dyddiau hyn, trwy Facebook. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddechrau dod i adnabod eich gilydd ac yn bwysicach fyth, gallwch adael i’r arweinydd cyfoed wybod pryd byddwch yn cyrraedd ÑÇÖÞÉ«°É. Peidiwch ag anghofio edrych ar eich e-bost Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É rhag ofn eu bod wedi gadael i chi neges yno.
Penwythnos Cyntaf
Bydd nifer fawr o arweinwyr cyfoed yn y neuaddau preswyl yn ystod y penwythnos cyntaf. Bydd yr ysgol academaidd wedi rhoi rhif eich ystafell iddynt a byddant yn rhoi cnoc ar eich drws ac yn cyflwyno eu hunain. Bydd digon o ddigwyddiadau cymdeithasol yn digwydd dros y penwythnos i chi ddechrau gwneud ffrindiau a byddant yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod y trefniadau er mwyn i chi ymuno yn y digwyddiadau. Byddant hefyd yn eich atgoffa o’r hyn sy’n digwydd yn ystod yr Wythnos Groeso.
Yr Wythnos Groeso
Os na fyddwch yn byw yn un o’r neuaddau neu os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu’n colli eich arweinydd cyfoed pan fydd yn galw dros y penwythnos, mae’n bosib na fyddwch yn cwrdd â’ch arweinydd cyfoed tan y digwyddiadau yn eich ysgol academaidd ar y dydd Llun cyntaf. Ond bydd llawer ohonynt yn disgwyl y tu allan i’r croeso swyddogol i’ch hebrwng chi i’r ysgol academaidd, felly gwyliwch allan am yr arwydd gydag enw eich ysgol academaidd ac ewch draw at y grŵp hwnnw.
Cael trafferth ymgartrefu?
Mae arweinwyr cyfoed yn gwybod y gallech chi deimlo’n ofnus a phryderus wrth symud i Fangor a byddant yn gallu’ch helpu gyda llawer o’ch problemau.
Ond cofiwch eu bod hwythau’n fyfyrwyr hefyd, ac felly bod cyfyngiadau ar yr hyn y gallant ei wneud. Os ydych yn wynebu rhai problemau neu anawsterau personol, gallant deimlo eu bod allan o’u dyfnder neu’n methu eich helpu. Weithiau, y ffordd orau y gallant helpu yw trwy eich cyfeirio at rywun sy’n fwy cymwys i roi cymorth i chi.
Yn dibynnu ar eich problemau, gallent awgrymu eich bod yn trefnu i weld eich tiwtor personol neu’r Gwasanaethau Myfyrwyr (sy’n cynnwys ystod eang o wasanaethau, yn cynnwys cwnsela a sgiliau astudio – ewch i weld eu gwe-dudalennau yn /studentservices/), Undeb y Myfyrwyr neu’r wardeniaid. Gallant eich helpu i gael gafael ar gymorth, a byddant yn parhau i fod yn gefn i chi yn gyffredinol.
Efallai eich bod yn teimlo hiraeth ac os felly, efallai y byddwch yn teimlo’n hollol ar eich pen eich hun. Ond credwch ni, nid chi yw’r unig un i deimlo felly – mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd amser i arfer â lle newydd. Pam na ddewch chi draw am sgwrs gyfrinachol ynglŷn â’ch sefyllfa gydag un o’n tîm cwnsela neu gymryd golwg ar ein gwefan am ffynonellau eraill o gymorth?