Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Myfyrwyr
Cliciwch yma i weld y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles dan Arweiniad Myfyrwyr 2023-2025
Mae profiad pob myfyriwr o brifysgol yn cael ei lywio gan eu hiechyd meddwl a lles.
Ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i gyflawni dull prifysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles myfyrwyr sy'n seiliedig ar y profiadau y bu i’n myfyrwyr fyw trwyddynt.
Rydym eisiau i’n myfyrwyr allu ffynnu’n academaidd ac yn bersonol fel rhan o gymuned prifysgol dosturiol a chefnogol.
Our new strategy is divided into 5 key themes. You can find a synopsis of each theme below or read the full strategy here.
Thema 1: CYFATHREBU SY'N CYSYLLTU
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a grymuso myfyrwyr gyda gwybodaeth amserol, ddiamwys a phriodol am adnoddau a chefnogaeth iechyd meddwl a lles.
Rydym eisiau i wybodaeth a chyfeirio iechyd meddwl fod yn llinyn euraidd ym mhopeth a wnawn fel bod ymddygiadau iechyd meddwl cadarnhaol yn cael eu normaleiddio ym mywyd bob dydd cymuned ein prifysgol.
I wneud hyn yn realiti byddwn yn:
- Sicrhau bod cyfeirio at gefnogaeth hygyrch yn effeithiol drwy gydol astudiaethau myfyrwyr, yn enwedig ar adegau anodd, trawsnewidiadau a chyfnodau o bwysau a straen cynyddol ar fyfyrwyr.
- Blaenoriaethu fel bod gwybodaeth am gael mynediad at gefnogaeth yn rhwydd yn gyson i'w chanfod a'i llywio.
- Archwilio ffyrdd o amrywio’r dulliau o ledaenu gwybodaeth yn greadigol ac effeithiol ar draws y brifysgol, gan godi ymwybyddiaeth o’r mathau o gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr.
- Datblygu un pwynt mynediad, rhithiol a chorfforol, ar gyfer y gwahanol wasanaethau o fewn Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr.
- Ymestyn ein rhaglenni hyfforddi i arfogi ein staff ymhellach gyda’r sgiliau, y ddealltwriaeth a'r wybodaeth gywir i gyfeirio'n ac atgyfeirio’n effeithiol.
- Mewn partneriaeth ag Undeb ÑÇÖÞÉ«°É, ehangu ein dulliau casglu gwybodaeth fel ein bod yn cyrraedd myfyrwyr nad ydynt fel rheol yn ymgysylltu â gwasanaethau cefnogi i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau cyfredol yr holl fyfyrwyr a helpu i nodi tueddiadau sy'n dod i'r amlwg. Bydd hyn yn ymgorffori ymarfer mesur Iechyd Meddwl a Lles Myfyrwyr a'r model Myfyrwyr fel Ymgynghorwyr.
Thema 2: AGWEDD GADARNHAOL AT IECHYD MEDDWL A LLES
Byddwn yn integreiddio ymddygiad iach a hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol o fewn cenhadaeth a chwricwlwm addysgol y brifysgol, gan annog cydnabod bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol.
I wneud hyn yn realiti byddwn yn:
- Ymgorffori cyfleoedd i ddysgu a datblygu gwybodaeth am les yn ein cwricwla er mwyn gwella ymhellach ein hymrwymiad i gymunedau academaidd iach yn feddyliol.
- Adfyfyrio ar y cysylltiadau rhwng iechyd meddwl cadarnhaol, gweithgarwch corfforol a chynaliadwyedd trwy feithrin amgylcheddau gweithredol ar draws y brifysgol, gan chwilio am gyfleoedd yn ein hamgylchedd adeiledig i hyrwyddo ac ysgogi iechyd a lles da.
- Adolygu sut rydym yn gwasanaethu ein myfyrwyr amrywiol gyda'n rhaglen amrywiol ac agored o weithgareddau allgyrsiol sy'n darparu cyfleoedd cymdeithasol.
- Nodi cyfleoedd i wella'r ddarpariaeth a hybu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon drwy Undeb ÑÇÖÞÉ«°É a Chanolfan Brailsford.
- Defnyddio ymarfer gorau yn y sector i adolygu’r defnydd o adnoddau digidol i gefnogi iechyd a lles, gan nodi unrhyw fylchau yn ein darpariaeth.
- Cryfhau a gwella ein hyfforddiant iechyd meddwl a lles a chefnogaeth i staff, gan gydnabod y cysylltiad cadarnhaol rhwng lles staff a dysgu a lles myfyrwyr.
.
Thema 3: EIN CYMUNED DOSTURIOL
Byddwn yn gweithio i greu cymunedau lle gall ein myfyrwyr ffynnu a lle mae holl aelodau ein cymuned yn cael eu cynnwys, eu cefnogi, eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Rydym eisiau i fyfyrwyr deimlo eu bod yn perthyn ac yn gysylltiedig â'r brifysgol mewn ffordd ystyrlon.
I wneud hyn yn realiti byddwn yn:
- Parhau i hyrwyddo darpariaeth gyfartal i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan gynnwys arwain y project iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg Cymru gyfan: myf.cymru.
- Adeiladu ar lwyddiant projectau fel Cyswllt@ÑÇÖÞÉ«°É a Sgwrsio a Cherdded i greu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol newydd i ddod â myfyrwyr at ei gilydd (fel yr ardd les arfaethedig yn Rathbone).
- Gweithio gyda'n hysgolion academaidd i ddeall anghenion personol a diwylliannol penodol y grwpiau amrywiol o fyfyrwyr ym mhob ysgol, fel y gallwn nodi a mynd i'r afael â rhwystrau i fynediad.
- Lleihau risgiau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad trwy ein Strategaeth Atal Hunanladdiad.
- Cynnig cefnogaeth ac adnoddau i fyfyrwyr sy'n cael eu hunain yn cefnogi iechyd meddwl a lles ffrind neu gyd-letywr, i ddiogelu eu lles eu hunain.
Thema 4: DULL SEILIEDIG AR DYSTIOLAETH
Rydym eisiau i’n systemau cefnogi, ein prosesau, a’n dull gweithredu gael effaith gadarnhaol.
Mae gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr fel yr arbenigwyr yn eu profiad eu hunain yn rhan o'n dull gweithredu ar sail tystiolaeth.
I wneud hyn yn realiti byddwn yn:
- Â Cyfathrebu sut rydym yn monitro ansawdd, yn defnyddio adborth ac yn gwella darpariaeth.
- Gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid wrth lunio cefnogaeth iechyd meddwl a lles, gan gydnabod mai nhw yw’r arbenigwyr yn eu profiad eu hunain, a gwerthuso effeithiolrwydd ein gwaith gyda’n gilydd.
- Parhau i ddatblygu a gwella ein defnydd o ddadansoddeg dysgu i adeiladu systemau cefnogi ymatebol i fyfyrwyr sy'n cael trafferth ymgysylltu.
- Meincnodi ein gwasanaethau yn erbyn safonau cenedlaethol, fel y mesur CCAPS ar gyfer cwnsela, lle bynnag y bo modd.
- Sicrhau effeithiolrwydd ein partneriaethau proffesiynol gyda gwasanaethau iechyd lleol drwy nodi ac adrodd ar ganlyniadau clinigol a rennir.
Thema 5: MYNEDIAD HAWDD AT GEFNOGAETH
Byddwn yn grymuso myfyrwyr i ofyn am gymorth priodol ac amserol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn canolbwyntio ar nodi rhwystrau, mynd i'r afael â stigma, a sicrhau y gall staff gefnogi ymddygiad ceisio cymorth cadarnhaol ymhlith myfyrwyr.Â
Mae hefyd yn golygu adeiladu ar yr hyn y mae myfyrwyr yn dweud wrthym sy'n gweithio a bod yn barod i newid sut rydym yn gwneud pethau.
I wneud hyn yn realiti byddwn yn:
- Parhau i gryfhau ein cysylltiadau â rhanddeiliaid a darparwyr allanol i wella cydweithredu a chyfathrebu a gwella mynediad ein myfyrwyr at gefnogaeth a ddarperir yn allanol.
- Sicrhau bod gan ddarpar fyfyrwyr fynediad at ganllawiau ynghylch sut y gallan nhw, ac unrhyw weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n gofalu amdanynt, hwyluso'r broses o bontio i brifysgol.
- Gwella gwelededd gwasanaethau ac ymwybyddiaeth o arbenigedd ein harbenigwyr trwy godi proffil Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr a Staff ar draws y brifysgol.
- Darparu protocolau manylach, gyda llwybrau clir wedi eu cyfathrebu’n dda ar gyfer uwchgyfeirio, i gefnogi staff sy'n ymateb i fyfyrwyr mewn trallod.
- Gwerthuso ein systemau rheoli gwybodaeth cyfredol ar draws y brifysgol a nodi gwelliannau ar gyfer rheoli achosion yn well.
Y Camau Nesaf
Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ein gweledigaeth, ein hymrwymiadau a'n cyfeiriad cyffredinol.
Byddwn yn cynnal adolygiad blynyddol ac yn adrodd ar ein cynnydd trwy Grŵp Strategaeth Iechyd a Lles y Brifysgol, a byddwn yn rhannu gwersi a ddysgwyd a mesurau effaith gyda chymuned gyfan y brifysgol.
Rydym yn edrych ymlaen at wireddu’r strategaeth hon, gan gydweithio i gwrdd â'r her o sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn cael y cyfle gorau i ffynnu, yn academaidd ac yn bersonol, mewn cymuned prifysgol dosturiol a chefnogol.