Gwybodaeth i Fyfyrwyr Wrecsam
Mae'r Gwasanaethau Anabledd yma i chi!
Mae'r Gwasanaethau Anabledd bellach ar-lein felly gallwch gael gafael ar ein gwasanaethau lle bynnag yr ydych chi - ar e-bost, siarad dros y ffôn neu alwad fideo, beth bynnag sydd orau gennych. Mae'r staff yn gweithio oriau swyddfa arferol ac yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych - ymwelwch â'r dderbynfa rithiol yn awr!
Gweler ein Cwestiynau Cyffredin a 'Beth rydym yn ei wneud i fyfyrwyr' am ragor o wybodaeth.
Myfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol
Ymholiad cyffredinol yn ymwneud ag anabledd
E-bost gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Cefnogaeth Ymgynghorol
Dylai myfyrwyr anfon e-bost at yr ymgynghorydd perthnasol os oes ganddynt bryderon yn ymwneud ag anabledd sy'n effeithio ar eu hastudiaethau:
cynghorwrdyslecsia@bangor.ac.uk
cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk
cynghorwranabledd@bangor.ac.uk
Os nad ydych yn sicr pa dîm cynghori i gysylltu ag ef, anfonwch e-bost i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Gwasanaeth Asesu
Os ydych yn credu y gallai fod gennych Wahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD) fel dyslecsia, dyspracsia, ADD, etc., gallwn eich helpu i gael tystiolaeth o hyn ar ffurf asesiad o bell. Er nad yw hwn yn ddiagnosis ffurfiol, gallwn ddarparu tystiolaeth i'ch galluogi i gael gafael ar yr un math o gefnogaeth tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a'ch galluogi i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (os yw'n berthnasol).
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r Ganolfan Asesu neu cysylltwch â: asesiad@bangor.ac.uk
Y Ganolfan Access
Rydym yn awr yn cynnig apwyntiadau i fyfyrwyr am Asesiadau Anghenion Astudio i Lwfansau Myfyrwyr Anabl dros Teams, Skype, neu Zoom.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r Canolfan Acccess neu cysylltwch â: canolfan_access@bangor.ac.uk
Tîm Cefnogaeth Sgiliau Astudio a Strategaeth Arbenigol GDP
Cewch hyd i ragor o wybodaeth am y Tim GDP yma.
Mentora
Dylai myfyrwyr anfon e-bostt eu mentor yn ôl yr arfer, neu os oes ganddynt unrhyw gwestiynau cyffredinol, anfonwch e-bost: gwaithcefnogi@bangor.ac.uk
Ymgynghorwyr Iechyd Meddwl
Rydym yn cynnig apwyntiadau galwad fideo / sain 'Microsoft Teams', ffôn ac e-bost. Gall myfyrwyr lenwi ein ffurflen hunanasesu i roi mwy o wybodaeth i ni am eu hanghenion.
Ar we-dudalen Cynghorwyr Iechyd Meddwl ceir hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chysylltiadau i adnoddau ar-lein. I gael cyngor iechyd meddwl neu feddygol mwy brys, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'r Gwasanaethau Brys.
Mae sesiynau galw heibio iechyd meddwl yn ar-lein
Prynhawn Mercher rhwng 2pm a 3.30pm
Oherwydd y sefyllfa bresennol, bydd Cheryl, Fiona a Sioned yn cymryd ein wythnosol reolaidd ar-lein. Bydd rhaid i ni weithio mewn ffordd ychydig yn wahanol fel y gallwn reoli ac ymateb yn deg i fyfyrwyr sydd angen siarad â ni.
Anfonwch e-bost i cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk yn rhoi amlinelliad o'ch sefyllfa a'r dull cyfathrebu sydd orau gennych (galwad fideo / sain 'Microsoft Teams', galwad ffôn neu e-bost). Yna bydd yn cysylltu â chi.
neu
gallwch ymuno â ni yn ein trafodaeth grŵp, a gynhelir trwy 'Microsoft Teams' ymlaen llaw, 1pm - 1:30 pm, gan weithio ochr yn ochr â - svbconnect@undebbangor.com i siarad am bob agwedd ar les. Ni fyddwch dan unrhyw bwysau i siarad; gallwch wrando yn unig, a gallwch anfon e-bost at y Cynghorwyr Iechyd Meddwl i ofyn am apwyntiad yn y sesiwn galw heibio sy'n dilyn.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Rheoli pryder
Mae'r elusen iechyd meddwl, MIND, yn darparu rhai cysylltiadau rhagorol yn ymwneud â’r . Ceir cyswllt i awgrymiadau ymarferol ynglŷn â gofalu am eich lles ar waelod y dudalen hon.
Adnoddau Iechyd Meddwl Ar-lein
Coronafeirws (Covid-19)
Cwestiynau Cyffredin
Ewch i i gael help i'ch cefnogi trwy'r pandemig coronafirws.
Eich Adborth
Byddem yn falch o'ch sylwadau Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Enw | Swydd |
---|---|
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Jane Jones | Rheolwr Anabledd (Gwasanathau Dysgu) |
Esther Griffiths | Rheolwr Cymorth Anabledd |