Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth 2024-25
Mae cymhellion pwnc blaenoriaeth AGA yn grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig yng Nghymru sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi argaeledd Cymhellion Hyfforddi Athrawon yn flynyddol.
Pynciau â Blaenoriaeth 2024 i 2025
I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid I unigolyn fod â gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:
- Bioleg
- Cemeg
- Cymraeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Ffiseg
- Ieithoedd Tramor Modern
- Mathemateg
- Technoleg Gwybodaeth
Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud
O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
Myfyrwyr llawn amser
Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn tri rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
- £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst* ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
- £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.
Myfyrwyr rhan-amser
Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn pedwar rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:
• £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
• £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR
• £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst* ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
• £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.
Bwrsariaethau i fyfyrwyr TAR nad ydynt yn gymwys ar gyfer Grantiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA)
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi cyflwyno bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr DU tu allan i Gymru yn unig*, nad ydynt yn gymwys i dderbyn Grantiau Addysgu. Bydd y bwrsariaethau’n cael eu hasesu ar incwm trethadwy cartref y myfyriwr yn ystod yr ail semester.
Disgownt Teyrngarwch Graddedigion
Bwrsariaethau ÑÇÖÞÉ«°É:
Incwm y cartref |
Bwrsari ÑÇÖÞÉ«°É |
yn llai na £25,000 |
£1,000 |
£25,001 - £40,000 |
£500 |
Mae rhagor o wybodaeth am y Bwrsariaethau ÑÇÖÞÉ«°É ar gael ar wefan y Brifysgol:
*Bydd pob myfyriwr o Gymru yn derbyn Grant o £1,000 gan Llywodraeth Cymru.
Ysgoloriaeth Alumni 2024/25
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnig gostyngiad o 20% mewn ffioedd i holl gyn-fyfyrwyr Cartref a Rhyngwladol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sy'n hunan-ariannu sydd wedi graddio gyda gradd anrhydedd.
I fod yn gymwys ar gyfer yr Ysgoloriaeth Alumni bydd rhaid i chi:
- Fod yn raddedig o raglen israddedig ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
- Ymgeisio yn llwyddiannus ac yna cofrestru i astudio ar un o’n graddau Meistr a addysgir sy'n gymwys (h.y. TAR Cynradd neu Uwchradd, MA, MSc, MBA, LLM. Heb gynnwys graddau MRes).
Nodwch os gwelwch yn dda:
Fel arfer dim ond UN dyfarniad / ysgoloriaeth y mae myfyrwyr yn gymwys i'w derbyn - os dyfernir ysgoloriaeth gwerth uwch i chi wedyn, y dyfarniad gwerth uwch fydd yn cael blaenoriaeth a bydd y dyfarniadau gwerth is yn cael eu canslo. Nid oes angen cais ar wahân ar gyfer yr Ysgoloriaeth.
Am wybodaeth bellach, ewch i'r wefan yma.