Darpar Fyfyrwyr
Gall cychwyn yn y brifysgol gryn dipyn ar ôl gadael addysg fod yn brofiad brawychus ond peidiwch â phoeni. Os cewch unrhyw broblem gyda'r broses dderbyniadau neu'r gofynion mynediad, cysylltwch â'n tîm derbyniadau admissions@bangor.ac.uk/ 01248 383717 neu'r ysgol academaidd y mae gennych ddiddordeb mewn ymuno â hi.
Dewch i un o'n Diwrnodau Agored lle cewch gwrdd â staff a myfyrwyr a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau a rhoi blas i chi o sut beth yw bod yn fyfyriwr ym Mangor. I gael rhagor o wybodaeth gweler.
Mae gan UCAS hefyd Ganllawiau i .
Wedi i chi gyrraedd bydd yr Wythnos Groeso yn gyfle i chi gwrdd â myfyrwyr eraill a gwneud ffrindiau a chewch eich cyflwyno hefyd i'r systemau academaidd. Caiff rhaglenni cynefino eu cynnal gan eich ysgol academaidd a bydd llawer ohonynt yn cynnig gweithgareddau a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr hŷn. Fe gewch wybod beth fydd y rhaglenni hyn ychydig cyn i chi ddechrau ym Mangor. Hefyd mae yn cynnal llawer o weithgareddau eraill felly chwiliwch amdanyn nhw.
Os oes arnoch chi eisiau siarad yn benodol â rhywun am fod yn 'fyfyriwr hŷn' dylech gysylltu â:
Gwasanaethau Myfyrwyr |
|
Undeb ÑÇÖÞÉ«°É |
---|---|---|
Huw Jones |
|
Ymholiadau Cyffredinol |
|