Tîm y Gaplaniaeth
Datganiad Cenhadaeth
Mae Tîm y Gaplaniaeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn gysylltiedig âr Gwasanaethau Myfyrwyr ac yn gweithio â hwy i gynnig gofal a chefnogaeth fugeiliol, ar sail aml-ffydd, i fyfyrwyr a staff y brifysgol.
Beth ydym ni’n ei wneud?
- Rydym ni yma i wrando, i weddïo gyda chi, i drafod materion bywyd a ffydd gyda chi ac i gynnig arweiniad neu fentora ysbrydol.
- Os oes gennych gwestiynau am faterion yn ymwneud â ffyrdd, fe wnawn ein gorau i’ch helpu i ganfod ateb iddynt.
- Os ydych yn mynd trwy gyfnod anodd, rydym yno os oes arnoch angen rhywun i fod yn gefn i chi.
- Rydym yno i helpu a chynghori’r brifysgol ar faterion yn ymwneud â ffydd.
- Rydym yn trefnu (neu helpu i drefnu) nifer o ddigwyddiadau yng nghalendr y brifysgol.
- Mae aelodau’r tîm hefyd yn chwarae rhan flaenllaw mewn datblygu a chefnogi cymuned ffydd o fewn ein traddodiad ein hunain.
- Rydym yn cydweithio â grwpiau ffydd eraill yn yr ardal leol.
Pethau nad ydym yn eu gwneud!
- Rydym yn anfeirniadol yn ein ffordd o weithredu – tuag at y sefydliad a thuag at unigolion.
- Nid ydym yn cenhadu – er ein bod yma i hwyluso twf ysbrydol a chyd-deithio â chi ar eich taith ffydd, ni fyddwn yn ceisio eich troi at unrhyw grefydd.
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch a'r canlynol:
Enw | Swydd |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |