Iechyd Meddwl
Cyfrinachedd
Cyn holi aelod o staff y Brifysgol neu weithiwr proffesiynol ym maes iechyd ynglÅ·n â lles myfyriwr, dylech ofyn am ganiatâd y myfyriwr os yw hynny’n bosib.
Os yw’r myfyriwr yn gwrthod caniatâd ond eich bod o’r farn fod ei (d)diogelwch ef/hi neu ddiogelwch pobl eraill mewn perygl, dylech chi rannu’r wybodaeth hon fel ‘dyletswydd gofal’.
Gallwch geisio cyngor yn y lle cyntaf, heb dorri cyfrinachedd, trwy beidio â datgelu pwy yw’r myfyriwr.
Os ydych yn credu y dylid torri cyfrinachedd, ewch at reolwr llinell yn gyntaf, lle bo’n bosibl.
Dylech rannu gwybodaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar sail ‘angen gwybod’.
Os oes angen rhoi gwybodaeth i eraill yn y Brifysgol, rhaid i’r wybodaeth honno beidio â chynnwys ond yr ychydig lleiaf o’r manylion sy’n ofynnol.
Rhaid cymryd gofal i sicrhau bod gwybodaeth sensitif am y myfyriwr yn cael ei chofnodi’n ddiogel ac yn briodol ac nad yw ar gael i eraill.
Os bydd rhiant/gwarcheidwad yn poeni o ddifrif am les myfyriwr, bydd y Brifysgol yn gwneud ymholiadau priodol ynghylch sefyllfa’r myfyriwr. O dan amgylchiadau eithriadol, gall y Brifysgol gyfleu neges wrth fyfyriwr ar ran rhiant/ gwarcheidwad, ond ni all gadarnhau a dderbyniwyd y neges.
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â’r rhiant/ gwarcheidwad (neu unrhyw un arall a enwebir gan y myfyriwr), neu bydd yn rhoi gwybodaeth, trwy Swyddfa’r Cofrestrydd, i’r awdurdod statudol perthnasol o dan unrhyw amgylchiadau lle bo angen cysylltu â myfyriwr ar frys (e.e. yn achos damwain, neu lle bo’r grŵp staff priodol wedi barnu bod y myfyriwr mewn perygl mawr. [Mae mwy o gyngor ar gael gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ar drefniadau o’r fath.]
Mae polisïau ar gyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd ar gael yn y Cod Ymarfer ar Ddarpariaeth i Fyfyrwyr Anabl.
Mae polisïau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gadw cofnodion i’w gweld yn:
www.bangor.ac.uk/ar/ro/recordsmanagement/dataprotection/DPPolicy.php.cy
www.bangor.ac.uk/ar/ro/recordsmanagement/InformationSecurityPolicy.php
Wedi'i ddiweddaru 04.04.19