Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
Newyddion Y Gaplaniaeth a darpariaeth ffydd ehangach
Newyddion a Digwyddiadau
Diwrnod cofio’r Holocost
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Ionawr
Amser: 10:30am – 11:30am
Lleoliad: Neuadd Powis
Cyswllt: Ingrid Pedersen
Thema’r gwasanaeth eleni yw ‘ar gyfer dyfodol gwell’ a bydd yn cynnwys cerddoriaeth
a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y
Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, ynghyd â staff y brifysgol.
Cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost yn y DU ers 2001, a chynhelir dros 7,700 o
weithgareddau lleol ar 27 Ionawr, neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, bob blwyddyn.
Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd. Mae angen cofrestru
Gwasanaeth Carolau
Dyddiad: Nos Iau, 12 Rhagfyr
Amser: 7:00pm – 8:30pm
Lleoliad: Neuadd Prichard Jones, Prif Adeilad y Brifysgol
Cyswllt: Ingrid Pedersen, Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol
Ymunwch yn ysbryd yr ŵyl wrth i ni ganu carolau clasurol a dathlu llawenydd y Nadolig gyda’n gilydd.
Mae Gwasanaeth Carolau y Brifysgol yn gyfle i ddod ynghyd i gofio’r rheswm dros ddathliadau’r Nadolig ac i ddiolch; i glywed rhai perfformiadau bendigedig gan Gôr y Siambr a Bandiau Cyngerdd a Phres y Brifysgol, ac i ymuno yn rhai o’ch hoff garolau.
Ymunwch yn ysbryd yr ŵyl wrth i ni ddathlu llawenydd y Nadolig gyda’n gilydd. Dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu gyda chi am noson o ryfeddod yn llawn cerddoriaeth a darlleniadau.
Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae angen cofrestru o flaen llaw.
Croeso i bawb!
Gwasanaeth Dydd y Cofio
Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ddydd Llun, 11 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Mewnol, Prif Adeilad y Celfyddydau neu dan do ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau os bydd y tywydd yn wael.
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10:50am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.
Gwasanaeth Carolau'r Brifysgol
Trefn y Gwasanaeth
Chanukah
Gwasanaeth Dydd y Cofio
Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ddydd Gwener, 10 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Allanol, Prif Adeilad y Celfyddydau neu dan do ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau os bydd y tywydd yn wael.
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10:50am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
Cwrdd Crynwyr ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Ystafell Cyfarfod 2, Llawr isod
Neuadd Rathbone
Bob 4ydd Mercher
Dechrau 22eg Mawrth
(26 Ebrill, 24 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf)
Cyfarfod ein gilydd 2.15pm
Dechrau 2.30-3pm
Myfyrfodi yn ddistaw
Dadblygu yn ysbrydol
Cyfeillgarwch a
Chefnogaeth