Croeso i’r Tîm GDP
Mae’r Tîm GDP yn darparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sydd â gwahaniaethau dysgu penodol (GDP) megis dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD). Gall myfyrwyr Gwyddor Gofal Iechyd yn Wrecsam gael mynediad at sgiliau astudio arbenigol a chymorth strategaeth gan Brifysgol Wrecsam.
- Gallwn eich cefnogi gydag adeiladu sgiliau dysgu a mynd i'r afael â gofynion astudio, os ydych wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth a bod gennych gynllun cymorth dysgu personol yn ei le.
- I drefnu sgiliau astudio arbenigol un i un a chymorth strategaeth gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, cysylltwch â: cymorth121arbenigol@bangor.ac.uk
- I drafod unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag anabledd sy’n effeithio ar eich astudiaethau, cysylltwch â: spldadviser@bangor.ac.uk
- Os nad ydych yn siŵr â phwy i gysylltu yn y lle cyntaf, cysylltwch â: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk