Cefnogi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr
Ym Mhrifysgol 亚洲色吧, rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein myfyrwyr i gyd a'u cefnogi.
Mae'r Brifysgol yn ymwybodol y gallai gofalu fod 芒 goblygiadau ariannol, gyda myfyrwyr yn profi costau teithio uwch neu'n ei chael hi’n anoddach gweithio'n rhan amser i ychwanegu at eu cyllid myfyrwyr.
I leihau rhai o’r pryderon ariannol hyn mae Prifysgol 亚洲色吧 yn cynnig Bwrsariaeth Gofalwyr flynyddol o hyd at 拢1,000 o Gronfa Caledi’r Brifysgol.
Gofalwr yw rhywun sy'n gofalu am aelod o'r teulu, partner neu ffrind ag anabledd corfforol neu synhwyraidd, anabledd dysgu, cyflwr meddygol, materion iechyd meddwl neu rywun sy'n gaeth i gyffuriau, alcohol neu hapchwarae. (Sylwch y byddai'r dyletswyddau hyn yn ychwanegol at y cyfrifoldebau gofalu arferol fyddai gan riant am blentyn dibynnol).
I wneud cais am y Bwrsariaeth Gofalwyr, gallwch anfon eich tystiolaeth atom (ar 么l y 30ain Medi 2024) nail ail drwy e-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk neu galwch i mewn i'r Uned Cefnogaeth Ariannol. Mae ein swyddfeydd yn Neuadd Rathbone.
Mae angen tystiolaeth gan unigolyn proffesiynol*, sy'n ymwybodol o sefyllfa'r teulu a'ch cyfrifoldeb gofalu chi. Ar 么l i ni dderbyn eich tystiolaeth, byddwn yn pennu a ydych yn gymwys ac yn anfon ffurflen atoch i'w llenwi i gael eich talu.
*Athro / Tiwtor Ysgol, Gweithiwr Cymdeithasol, Swyddog Heddlu, Meddyg, neu Gweithiwr Gofal iechyd proffesiynol
Os oeddech chi'n arfer derbyn Lwfans Gofalwr, a fyddech cystal ag anfon prawf gan yr Adran Waith a Phensiynau bod hwn wedi dod i ben bellach.
Os ydych yn ofalwr sy'n cael cyflog am eich dyletswyddau gofalu neu os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr, mae'n ddrwg gennym nad ydych yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth hon.
Llawlyfr Gofalwyr
听
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn cynhyrchu llawlyfr ar gyfer ein myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, sy'n rhoi manylion y gefnogaeth sydd ar gael yn ogystal 芒 rhifau ff么n a manylion cyswllt a allai fod o gymorth mewn unrhyw argyfwng.