Gawsoch chi Arweinydd Cyfoed gwych? ‘Da chi isio fod yn Arweinydd Cyfoed ym mis Medi?
A roddodd eich Arweinydd Cyfoed gyflwyniad anhygoel o Fangor i chi? Efallai eu bod wedi helpu i'ch cyflwyno i gyd-fyfyrwyr ar eich cwrs, dangos i chi ble i gael coffi da , neu wedi mynd y tu hwnt i'ch helpu chi i ymgartrefu yn y Brifysgol?
Os hoffech chi helpu myfyrwyr newydd ym mis Medi, pa ffordd well o wneud hynny na thrwy gymryd rhan yn y gweithgareddau Croeso fel Arweinwyr Cyfoed Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ✨swyddogol✨ (cewch grys-t yn dyst i’ch rôl anhygoel!).=
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi helpu myfyrwyr newydd - naill ai wyneb yn wyneb, ar-lein, neu gymysgedd o'r ddau ((yn dibynnu ar ganllawiau Covid ar y pryd). Byddwch chi'n cael eich hyfforddi, ac mae yna Uwch Arweinwyr Cyfoed neu Gydlynwyr yn eich Ysgol Academaidd i'ch helpu chi - peidiwch â theimlo nad ydych chi'n gallu helpu – bod yno fel wyneb cyfeillgar 'di'r peth pwysicaf!
Mae ceisiadau ar agor, cliciwch yma i wneud cais.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2021