Ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, rydym yn falch o'n cryfderau ym maes addysgu, dysgu ac ymchwil, a bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn dysgu am wyddoniaeth a chymhwyso seicoleg gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf. Yn ystod ein cyrsiau, efallai y cewch gyfle i weld dyraniadau ymennydd dynol, rhedeg marathon neu wynebu ymosodiad gan sombïaid, i gyd yn enw gwyddoniaeth!Â
- 79% o'r cynnyrch ymchwil naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)
- Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DUÂ
- Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol
Yn Ysgol Seicoleg ÑÇÖÞÉ«°É byddwch hefyd yn elwa o gefnogaeth ragorol i fyfyrwyr.  Mae tiwtor ar gael pob diwrnod gwaith i ddelio â materion gofal bugeiliol a byddwch hefyd yn elwa o arweiniad gan diwtor personol academaidd penodol.  Mae'r gefnogaeth academaidd sydd ar gael i sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf posib o'ch potensial yn cynnwys sesiynau sgiliau a sesiynau ystadegau, ac fel seicolegwyr, rydym wedi defnyddio ein sgiliau i ymgorffori rhaglen sgiliau iechyd meddwl yn ein cyrsiau.Â
Mae naws gosmopolitaidd i Adran Seicoleg ÑÇÖÞÉ«°É, gyda staff a myfyrwyr yn dod i ogledd Cymru o bob cwr o'r byd i weithio ac astudio.  Ochr yn ochr â'r gymuned staff a myfyriwr rhyngwladol bywiog ac amlieithog hon , rydym yn cynnig dosbarthiadau trwy gyfrwng y Gymraeg i'n myfyrwyr Cymraeg.  Â
Mae'r rhaglenni seicoleg y gallwch eu hastudio yma yn cynnig cyfuniad o amrywiaeth, ansawdd a phrofiad dysgu nad ydynt ar gael unrhyw le arall, wedi eu cyflwyno mewn adran fawr, amlieithog ac amrywiol. Byddem yn falch iawn pe baech yn ymuno â ni.Â