Cyfleoedd am yrfaoedd mewn hylendid deintyddol
Mae Hylenwyr Deintyddol yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal deintyddol. Gall graddedigion ddisgwyl gweithio mewn gwasanaethau deintyddol cyffredinol neu wasanaethau deintyddol clinigol cymunedol. Yn y gwasanaethau hynny, mae hylenwyr deintyddol yn gweithio fel rhan o'r tîm deintyddol ehangach, gan reoli eu cleifion eu hunain, ac ychwanegu at y gofal a ddarperir gan unigolion cofrestredig deintyddol eraill.
Bydd rôl gynyddol i hylenwyr deintyddol yn narpariaeth gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Nghymru a newidiadau polisi’n parhau i bwysleisio'r defnydd cynyddol o hylenwyr. Ìý
Gall hylenwyr deintyddol ganolbwyntio ar elfennau penodol o ofal neu weithio mewn lleoliadau gofal penodol, gan gynnwys ysbytai dysgu, ysgolion deintyddol, y lluoedd arfog, carchardai, neu gyfleusterau gofal preswyl. Mae llwybrau gyrfa unigryw hefyd ar gael trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd dysgu gydol oes. Mae rhai hylenwyr deintyddol yn dod yn addysgwyr deintyddol, rheoleiddwyr ac academyddion. Ìý
Mae hylendid deintyddol hefyd yn fodd i symud ymlaen rhwng swyddi ym maes deintyddiaeth. Mae symud ymlaen o hylendid deintyddol i therapi deintyddol yn gyffredin.
Ìý
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Hylendid Deintyddol llwyddiannus ym Mangor?Ìý
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Hylendid Deintyddol ym Mangor?Ìý
- Sut ydw i yn gwybod maiÌýHylendid Deintyddol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý
Ein hymchwil
Isod mae rhai enghreifftiau o brojectau ymchwil diweddar sy'n gysylltiedig â gweithwyr hylendid deintyddol a gofal proffesiynol o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É:
• Can Hygiene-Therapists maintain the oral health of routine low-risk dental recall patients in "high-street" dental practices:
• uSing rolE-substitutioN In care hOmes to improve oRal health ().
•
• .