Cyrhaeddodd nifer o feysydd pwnc yr 20 uchaf gan gynnwys Amaethyddiaeth a Choedwigaeth(2), Cerddoriaeth (4), Nyrsio (6), Anatomeg a Ffisioleg (10) ac Ysgrifennu Creadigol (13).ÌýTra bod safle cyffredinol ÑÇÖÞÉ«°É yn y tabl wedi gwella, mae hefyd wedi cadw’r pedwerydd safle ymhlith prifysgolion Cymru.
‘Mae’r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymroddiad staff Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i ddarparu addysg o safon a meithrin amgylchedd anogol i fyfyrwyr ragori yn academaidd ac yn bersonol’.
Mae The Times & The Sunday Times Good University Guide 2024 yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar addysg uwch gan gynnwys rhagolygon cyflogaeth graddedigion, ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr.
Mae’r canllaw eleni hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw beth a ble mae myfyrwyr yn astudio, gyda ffocws cryf ar ragolygon gyrfa graddedigion.
Ychwanegodd yr Athro Burke:
‘Mae ymrwymiad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i ragoriaeth academaidd a’n hymroddiad i gefnogi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol yn allweddol o ran ein llwyddiant cyson wrth ddringo yn uwch yn y tabl. Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi parhau i addasu ei chwricwlwm i anghenion esblygol cyflogwyr, gan gofleidio gwaith rhyngddisgyblaethol, a chynnig rhaglenni arloesol sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau’r dyfodol.
Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu addysg o'r radd flaenaf a chyfrannu'n gadarnhaol at ein cymuned gyfan yn ogystal â'r amgylchedd, fel sy'n cael ei gydnabod nid yn unig yma yn The Times & The Sunday Times, ond hefyd trwy fod wedi dringo 28 safle yn nhabl cynghrair The Guardian. (i safle 54) a’r clod o gael ein henwi yn ‘Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru’ (a safle yn y 50 uchaf) yn nhabl cynghrair cyntaf y Daily Mail, y cyhoeddwyd y ddau ohonynt yr wythnos diwethaf’.
Dywedodd Helen Davies, golygydd The Times a The Sunday Times Good University Guide:
'Dydy tirwedd addysg uwch erioed wedi bod cyn anodded â hyn. Mae’n golygu bod angen i unrhyw ddarpar fyfyriwr, rhiant, neu ofalwr feddwl yn galed ai mynd i brifysgol yw’r dewis cywir, ac os hynny yna ble i astudio a pha bwnc. Dyna lle mae’r canllaw hwn—y 30fed rhifyn—yno i helpu'.
Ìý