5 rheswm i astudio Llenyddiaeth Saesneg
Ydych chi'n barod i ddatgloi cyfrinachau Llenyddiaeth Saesneg? Mae鈥檙 rhaglen yn cynnig sylfaen gref o wybodaeth yn eich blwyddyn gyntaf, gan eich paratoi ar gyfer ystod gyffrous o opsiynau modiwl! Ym Mangor, rydym yn gwahodd myfyrwyr i ddatblygu diddordebau newydd wrth iddynt wneud cynnydd yn eu hastudiaethau, gyda chyfle i wneud ymchwil annibynnol ar unrhyw bwnc o鈥檜 dewis. O archwilio dulliau arloesol, llenyddiaeth 1000 o flynyddoedd oed neu adfyfyrio ar effeithiau llythrennedd cyfoes ar ein cymuned, mae rhywbeth yma sy鈥檔 si诺r o danio chwilfrydedd.
Datgloi byd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol 亚洲色吧! O鈥檙 Gothig i Gomedi a Ffuglen Plant - byddwch yn archwilio pynciau perthnasol cyfoes megis rhywedd a rhywioldeb, newid hinsawdd ac anghyfiawnder gwleidyddol yn ogystal 芒 chael mewnwelediad unigryw i anghydraddoldeb economaidd a globaleiddio.
Mae ein rhaglenni gradd yn gyffrous ac ysgogi鈥檙 meddwl, gan eich gwahodd i feddwl yn greadigol ac yn ddychmygus am faterion cyfoes, tra byddant hefyd yn eich helpu i feithrin sgiliau cyfathrebu effeithiol. Bydd sgyrsiau parhaus rhwng myfyrwyr a darlithwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi yn eich galluogi i feithrin hyder yn eich llais eich hun ac yn eich gallu i fynegi syniadau cymhleth yn glir.
Mae llawer o鈥檙 modiwlau Llenyddiaeth Saesneg yn darparu cyfleoedd i ddewis asesiadau creadigol, arloesol, sy鈥檔 canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer y farchnad swyddi ac ystod eang o yrfaoedd gwerth chweil.
Ochr yn ochr 芒 chynnig cyfle i chi ymroi i鈥檆h cariad at ddarllen, mae鈥檙 rhaglenni gradd yn rhoi i chi鈥檙 sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at ystod o wahanol yrfaoedd. Mae gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn uchel ei pharch yn y farchnad swyddi heddiw oherwydd credir yn aml bod gan raddedigion y gallu i ddarllen yn fanwl, i ddirnad naws a chywirdeb, ac i adeiladu dadleuon sy鈥檔 ddwyn persw芒d yn seiliedig ar ymchwil drylwyr. Mae鈥檙 rhain i gyd yn sgiliau cynyddol werthfawr yn y farchnad swyddi fodern, a dyma鈥檔 union beth rydyn ni鈥檔 ei gynnig pan fyddwch chi鈥檔 astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Ym Mangor, byddwch yn rhan o gymuned fywiog a gofalgar gyda chefnogaeth fugeiliol ragorol. Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr pwnc blaenllaw o'r diwrnod cyntaf, a bydd eich darlithwyr a'ch tiwtoriaid yn dod i'ch adnabod ac yn eich cefnogi trwy gydol eich gradd. Mae ein cymarebau myfyrwyr i staff yn golygu y gallwn gynnig dull gweithredu mwy personol wrth addysgu yma ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Yn ogystal 芒 darlithoedd, byddwch yn elwa o grwpiau seminar bach, goruchwyliaeth un-i-un ar waith project, gweithdai, a sesiynau galw heibio rheolaidd.
Mae ein cymuned Llenyddiaeth Saesneg yn fywiog gyda myfyrwyr yn cael digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Cewch gyfle i ymgolli mewn darllen ond hefyd i fynd ar ymweliadau i鈥檙 theatr ac ar deithiau maes, i wrando a siarad ag awduron gwadd, i fynychu seminarau ymchwil, i archwilio casgliadau ac archifau arbennig 亚洲色吧, ac i gymryd rhan mewn cymdeithasau myfyrwyr a grwpiau darllen bywiog.
Tra byddwch yn cael y cyfle i astudio鈥檙 clasuron, o Chaucer i Austen, o Shakespeare i鈥檙 Bront毛s, o Wordsworth i Plath, mae ein rhaglenni gradd yn pwysleisio nad yw Llenyddiaeth Saesneg yn golygu llenyddiaeth o Loegr yn unig. Rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio llenyddiaeth a safbwyntiau 么l-drefedigaethol, dad-drefedigaethol a llenyddiaeth Saesneg o bedair cenedl y Deyrnas Unedig. Mae yma arbenigwyr mewn Ll锚n Saesneg o Gymru ac mae鈥檙 addysgu hefyd yn amlygu cyd-destun Ewropeaidd llenyddiaeth Prydain.
Cyrsiau Israddedig Llenyddiaeth Saesneg
Darganfyddwch yr opsiynau cwrs sydd ar gael yn y maes pwnc hwn.
Proffil fideo myfyrwyr - Ceri James-Evans
Mae Ceri yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Yma mae hi'n trafod pam y daeth hi i Fangor, ei modiwl gorau dros y dair mlynedd ac hefyd y gweithgareddau sydd ar gael i fyfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg.
Unrhyw gwestiynau? Sgwrsiwch gyda myfyrwyr a staff

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?听Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?听
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Llenyddiaith Saesneg llwyddiannus ym Mangor?听
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Llenyddiaith Saesneg ym Mangor?听
- Sut ydw i yn gwybod mai Llenyddiaith Saesneg ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?听
Mae Eich Gyrfa'n Dechrau Yma
Mae听Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd听y Brifysgol yn cynnig ystod eang o adnoddau i鈥檆h helpu i gyflawni eich amcanion ar 么l graddio. Mae鈥檔 dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

00:00 [cerddoriaeth]
00:06 Mae'r ffair cyflogadwyedd heddiw mha yn gyfle i fyfyrwyr cael cwrdd gyda llu o wahanol gyflogwyr
00:11 a chael sgwrsio hefo nhw a chael cyfle i rwydweithio i
00:14 gael ffendio allan am y gwahanol gyfleodd
00:16 sydd ar gael ganddyn nhw i wneud profiad gwaith ond hefyd ar gyfer swyddi ar 么l iddyn nhw raddio.
00:21 Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael cyfleodd fel hyn i siarad hefo cyflogwyr oherwydd
00:25 mae o'n galluogi nhw i ddeall yn well be yn union mae cyflogwyr yn chwilio am mewn graddedigion
00:30 pam maen nhw'n recriwtio ac ymchwilio gwahanol opsiynau hefyd mae lot o
00:35 fyfyrwyr ni ddim wedi penderfynyn be maen nhw isio ei wneud eto felly mae digwyddiad fel hyn yn gyfle iddyn
00:39 nhw gael trio allan lot o opsiynau.
00:42 [cerddoriaeth]
00:44 Mae ffair fel hyn yn holl bwysig i fyfyrwyr oherwydd maen nhw'n cael cyfle i siarad
00:49 gyda chyflogwyr er enghraifft blwyddyn un efallai bod nhw ddim yn barod i ddod o hyd i
00:53 swydd eto ond maen nhw'n cael teimlad o be maen nhw angen neud ar gyfer paratoi,
00:57 pa sgiliau i ddatblygu a hefyd maen nhw'n cael cyfle i rwydweithio gyda chyflogwyr
01:03 lleol sy'n hybu ei hyder nhw.
01:06 [cerddoriaeth]
01:08 Mi rydym ni yn cynnig sesiynau sut i gael y mwyaf allan o ffair gyrfaoedd
01:11 cyn iddyn nhw ddod felly pam maen nhw'n cyrraedd ac yn gweld y cyflogwyr maen
01:17 nhw'n gwybod sut i fynd atyn nhw a sut i siarad, sut i ymddwyn a sut i gael
01:21 y mwyaf allan o鈥檙 sesiwn. Mae gennym ni bobol yma i helpu unigolion
01:25 sydd eisiau dechrau busnes ei hunain hefyd.
01:30 [cerddoriaeth]
01:33 Fi fy hun dwi wedi graddio o Brifysgol 亚洲色吧 yn y 90au oedd hi'n braf cael gofyn i ddod yn 么l yma i
01:40 weld ac i siarad gyda phobol heddiw sydd eisiau mynd yr un ford a nes i ddewis i fynd.
01:46 Dewch yma gofynnwch gwestiynau. Dewch yma, does ddim un cwestiwn yn wrong
01:51 mae llawer un wedi gofyn i mi heddiw be ydych yn chwilio am, just dewch yma a gofyn cwestiynau.
01:56 [cerddoriaeth]
01:59 Ia i drio hybu myfyrwyr i ymgeisio am ein swyddi ni ac i aros yn lleol yn ein cymunedau ni i weithio yn y
2:06 Gymraeg. Rydym yn cynnig wythnos o brofiad gwaith ar hyn o bryd ac rydym yn cynnig swydd rhan amser
02:13 ar gyfer para legal gydag opsiwn i efallai cael training contract yn y dyfodol.
02:18 Mi rydym ni ddwy yn cyn myfyrwyr felly roeddem yn keen i gael Gwen ddod hefo fi i representio'r
02:24 firm a thrio cael mwy o stiwdants sy'n siarad Cymraeg ac eisio aros yn yr ardal i mewn i
02:32 applyio i weithio i Gamlins yn y dyfodol.
02:33 Ar 么l y ffair mae gennym ni cyfleoedd yn mynd ymlaen trwy'r flwyddyn i helpu hybu
02:39 cyflogadwyedd myfyrwyr.
02:42 [cerddoriaeth]
00:00 [cerddoriaeth]
00:06 Mae hi wedi bod yn fuddiol ofnadwy cael cyfarfod llwyth o bobol,
00:09 dwi wedi cael llwyth o gynigion i wneud internships dros yr haf ac i wirfoddoli a lot o citizens advice
00:18 a phallu yn mynd ymlaen a llwyth o pethau fatha heddiw sy'n helpu ni.
00:22 Ac mae o yn rhoi syniad i mi be ddwi isio wneud blwyddyn nesaf ac yn y blaen felly.
00:25 Oes, mae yna gymysgedd gwych yn enwedig mae yna lwyth o bobol sydd yn gwneud y gyfraith felly
00:30 mae o'n rhoi opsiynnau i mi. Jyst gwnnech y mwyaf ohoni a dod i bob un, rydych yn si诺r
00:36 o ddysgu rhywbeth newydd yn bob un.
00:38 [cerddoriaeth]
00:41 Ydw, dwi'n meddwl mae o'n agor drysa i bobol, dwi'n meddwl bod yna amrywiaeth
00:46 o gyflogwyr yma ac mae yna agencies yma hefyd sydd gyda connections ar hyd Gwynedd.
00:53 mynd i'r ffair jyst edrychwch ar bwy sy'n mynd, edrych ar y rhestr o enwau efallai
00:58 a meddwl am pwy fydd nhw eisiau mynd tuag at y fwyaf, be sy'n diddori nhw fwyaf, paratoi CV
01:04 a mynd ac ychydig bach hefo nhw.
01:06 [cerddoriaeth]
01:09 Ym Mangor mae o'n ddiwrnod lle gallwn ni cymdeithasu gyda phobol yn y byd busnes
01:16 o wahanol feysydd mewn busnes felly o'r gyfraith i wasanaeth sifil i iechyd felly dwi'n meddwl bod
01:27 hynny'n hwb da i astudio yma felly. Drwy ddod yma i siarad gyda nhw dwi'n gwybod lot mwy r诺an na
01:35 be o ni cwpwl o oriau yn nol. Mae hi'n bwysig bod chi'n dod cyfarfod gyda phobol, cael gwybod be
01:39 sy'n mynd ymlaen ac mae'n ateb llwyth o gwestiynau. Ac mae yna bobol os tydi nhw ddim yma
01:45 ar y pryd mae yna wahanol fatha o gysylltu 芒 nhw hyd yn oed trwy'r brifysgol hyd yn oed.
01:51 [cerddoriaeth]
01:53 Mae o'n wych, mae o'n brofiad da ac mae'n lleol hefyd, cael cwrdd 芒 ffrindiau a phobol newydd
02:00 drwy'r byd sydd yn deimlad cartrefol iawn.
02:04 [cerddoriaeth]
CEFNOGAETH I FYFYRWYR
Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a鈥檜 cefnogi.听Gan ddechrau yn ystod yr Wythnos Groeso, cewch gymaint o help a chefnogaeth 芒 phosib gyda materion iechyd a lles yn ogystal 芒鈥檆h gwaith academaidd.

Lleoliad 亚洲色吧
Cewch y gorau o ddau fyd pan fyddwch yn astudio ym Mangor. Fel dinas hardd yng ngogledd Cymru gyda golygfeydd syfrdanol, mae'n berffaith i'r rhai sy'n edrych i archwilio'r awyr agored. Ac eto, nid yw'n bell o gyrraedd y dinasoedd mawr ac mae'n gyfoethog mewn hanes gydag ymdeimlad bywiog o gymuned sy'n ei gwneud yn le delfrydol i fyfyrwyr ac yn lleoliad prifysgol perffaith.
听


Ein Hymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg
Mae鈥檙 addysgu a'r oruchwyliaeth yn seiliedig ar ymchwil ac ymarfer creadigol o鈥檙 radd flaenaf yn fyd-eang. Mae gennym gryfderau ymchwil mewn llenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar; hanes y llyfr a chyhoeddi; ac Ysgrifennu o Gymru yn Saesneg. Mae ein hymchwil yn cyrraedd cynulleidfa ryngwladol ac mae cyswllt clos 芒'r amgylchedd lleol a'n casgliadau, gan gynnwys archifau rhagorol y brifysgol. Yn y REF diweddaraf, roedd ein hymchwil yn safle 14 yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cyhoeddiadau o鈥檙 radd flaenaf yn fyd-eang.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.