Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio Gwyddorau Eigion?
Mae'r angen i adnabod a manteisio ar ffynonellau bwyd ac ynni newydd yn erbyn y cefndir o fygythiadau a gwyd yn sgil cynhesu byd-eang yn golygu bod gwyddorau eigion yn bwnc sydd 芒'i fryd ar y dyfodol. Ei ddiben yw adnabod problemau a dod o hyd i atebion.听听
Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i gynhesu'r hinsawdd. Mae hefyd yn bwysig os ydym am harneisio'r potensial enfawr, sydd i raddau helaeth heb ei gyffwrdd, o ynni adnewyddadwy o'r llanw. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o System y Ddaear, yr atmospher a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor.听
Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin 芒 phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig 芒 newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.
- Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
- Rydym wedi ein lleoli o fewn ychydig fetrau i'r m么r, sy'n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau mewn aberoedd, ar lan y m么r ac ar y m么r.
- Mae gennym long ymchwil fordwyol gwerth 拢3.5m.
Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae 亚洲色吧 yn eu cynnig heb eu hail.
[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi鈥檔 gr锚t cwrdd gyda Steve! Mae鈥檔 gyfle mor gr锚t i hyd yn oed cael gweld听
[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.
[0:12] Un o鈥檙 rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon,听
[0:16] Does dim ffordd well o dreulio鈥檙 prynhawn i ddweud y gwir!听
[0:23] Rydym yn mynd allan i鈥檙 afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol听
[0:28] i gael blas o鈥檙 gorau sydd gan yr ardal yma i鈥檞 chynnig.听
[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o鈥檙 bywyd gwyllt o鈥檙 rhan yma o鈥檙 byd, yn enwedig yr adar. 听
[0:53] Mae鈥檙 ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod听
[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).
[01:02] Mae鈥檔 debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda 亚洲色吧.听
[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.
[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.
[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn.听
[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud 亚洲色吧 y lle gorau i astudio鈥檙 gwyddorau naturiol.
[01:30] Mae鈥檔 wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu...听
[01:37] y mulfrain, y morloi a鈥檙 math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.
[01:41] Mae Steve yn ddyn cl锚n iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod.听
[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi鈥檔 teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.
[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.
[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio听
[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.
[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.
Taith rithiol 360 o'n cyfleusterau
Cowt Canolfan F么r Cymru听
Mae Canolfan F么r Cymru鈥檔 cyfrannu at effaith ehangach ymchwil Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion. Mae'n cefnogi'r economi las trwy gysylltu ymchwil academaidd 芒 chymwysiadau yn y byd go iawn.
Cyntedd Canolfan F么r Cymru听
Agorwyd Canolfan F么r Cymru gan y Brenin Siarl, Tywysog Cymru ar y pryd, yn 2016. Wrth edrych i fyny, gallwch weld gwaith celf o fywyd y m么r sydd wedi'u creu yn defnyddio poteli plastig a daflwyd ymaith, sy'n amlygu cymaint o bla yw gwastraff plastig yn ein cefnforoedd.
Balconi Canolfan F么r Cymru听
Rydym yn ffodus iawn o fod wedi鈥檔 lleoli ar lan y Fenai yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys M么n, gyda golygfeydd dros y d诺r tuag at Eryri.
Ystafell seminar Sarah Jones听
Ystafell seminar Sarah Jones, lle byddwch yn ymuno 芒 ni i glywed am ein hymchwil ddiweddaraf sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd.
Ystafell gynadledda Canolfan F么r Cymru听
Dyma un o'n hystafelloedd cynadledda, lle y byddwch efallai鈥檔 ymuno 芒 ni mewn tiwtorialau, trafodaethau neu gyfarfodydd eraill.
Acwariwm d诺r oer听
Mae鈥檙 acwariwm d诺r oer hwn yn cefnogi ein hymchwil a鈥檔 haddysgu gydag amrywiaeth o rywogaethau lleol. Mae ein holl acwaria wedi'u cymeradwyo gan y Swyddfa Gartref ac mae鈥檙 d诺r m么r wedi'i hidlo'n uniongyrchol o鈥檙 Fenai.
Adeilad Craig Mair听
Mae llawer o鈥檔 haddysgu a鈥檔 hymchwil yn digwydd yn adeilad Craig Mair sy鈥檔 cynnwys ein labordy addysgu mwyaf ar gyfer astudiaethau israddedig.
Labordy gwaddodeg听
Mwd, clai, tywod a silt o bob lliw a llun! Rydym yn hidlo, didoli, dadansoddi a dysgu am waddodion y m么r yn y labordy gwaddodion. Mae'r gwaddodion yn amrywio o samplau craidd a gasglwyd ymhell o dan wyneb y ddaear, i dywod o draethau cyfagos.
Labordy hydrodynamig听
Mae ein labordy hydrodynamig yn gyfleuster arbrofol ar gyfer efelychu symudiadau d诺r a gwaddodion gan donnau, tswnam茂au, y llanw, afonydd a cherhyntau dwysedd. Mae gennym dri chafn arbrofol, y mwyaf ohonynt yn 10m o hyd gyda generadur tonnau.
Ystafelloedd 么l-radd Dennis Crisp
Fe鈥檜 gelwir yn Ystafelloedd Dennis Crisp ar 么l un o'r gwyddonwyr a sefydlodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae'r ystafelloedd wedi'u neilltuo ar gyfer myfyrwyr ein rhaglenni Meistr ac maent yn cynnwys labordai, ystafelloedd seminar, ardaloedd addysgu, ystafell gyfrifiaduron ac ystafell gyffredin i fyfyrwyr 么l-radd.
Balconi听
Mae'r balconi y tu allan i'r prif labordy addysgu yn lle dymunol i gymryd seibiant a mwynhau'r golygfeydd.
Y prif labordy addysgu听
Mae gwyddoniaeth dda yn dechrau yn y labordy. Dyma ein labordy addysgu pwrpasol lle byddwch, fel myfyriwr, yn cael sesiynau ymarferol bioleg m么r ac eigioneg yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Mae ein sesiynau ymarferol yn rhoi llawer o sgiliau i chi, gan gynnwys sgiliau anatomi, ffisioleg, ymddygiad anifeiliaid ac adnabod rhywogaethau.
Labordy diwylliant algaidd听
Mae ein labordy diwylliant algaidd yn darparu llawer o'r cynhwysion craidd i gefnogi ein acwaria, ein haddysgu a鈥檔 hymchwil.
Ardal gorffwys听
Os ydych yn astudio gyda ni, gallwch ymlacio yma rhwng sesiynau.
听
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?听Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau'r Eigion.听
听
听
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?听
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau'r Eigion llwyddiannus ym Mangor?听
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau'r Eigion ym Mangor?听
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?听
听
Ein Ymchwil o fewn Gwyddorau Eigion
Mae ymchwil Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn rhychwantu'r byd. Mae ein hymchwil, sydd gyda'r gorau yn y byd, yn ymdrechu i adnabod achosion enciliad yr i芒 ym M么r yr Arctig ac effaith cynhesu byd-eang a llygredd plastig ar riffiau cwrel trofannol. Mewn cydweithrediad ag Arolwg Antarctig Prydain ac eraill rydym yn ddiweddar wedi canfod lefelau o ficroplastigion sy'n peri pryder mewn ffiordiau dilychwin yn yr Antarctig.听
Mae ein hymchwil yn astudio hanes y Ddaear. Rydym wedi datblygu technegau i feintioli hinsoddau'r gorffennol ar y blaned ac yn defnyddio modelau rhifiadol cymhleth i edrych ar y prosesau allweddol a oedd yn gyrru'r hinsoddau hynny. Yn ddiweddar rydym wedi nodi 'uwch gylchred llanw' sy'n gysylltiedig 芒 drifft cyfandirol ac rydym bellach yn deall sut y gallai'r llanw fod wedi dylanwadu ar esblygiad bywyd ar y Ddaear. Rydym wedi gweithio ar y cyd 芒 NASA yn archwilio r么l llanw'r m么r yn esblygiad cynnar y blaned Fenws.
Rydym hefyd yn sefydliad blaenllaw mewn ymchwil i wyddor pysgodfeydd a chynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r llanw.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.