Wil Chidley BSc Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg
Myfyriwr yn ei 3ydd flwyddyn ydi Wil ac yn wreiddiol o Dudweiliog. Mae’n astudio Daeryddiaeth Ffisegol ac Eigioneg.
Pam wnes di ddewis astudio ym Mangor?
Dewisais ddod i astudio ym Mangor oherwydd ei bod yn adran sy’n cael ei hadnabod am ei llwyddiant yn ryngwladol, a honno ar stepen fy nrws. Yma, mae ymchwil gyfredol yn digwydd, gan ddefnyddio’r amrywiaeth eang o gyfleusterau ac adnoddau sydd i’w cael yma. Ar ôl y croeso oedd i’w gael yn yr adran ym Mhorthaethwy ar y diwrnod agored, roeddwn yn sicr mai yma oeddwn eisiau dod i astudio.
Sut wyt ti’n mwynhau dy gwrs?
Dwi bellach ar fy nhrydedd flwyddyn ac mae’r profiadau ‘dwi wedi eu cael wedi bod yn wych, megis gwaith maes amrywiol ar y môr rhwng Bae Llandudno a Thraeth Coch, Ynys Môn . Mae hi’n braf medru rhoi’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn y darlithoedd i waith allan ar y maes go iawn.
Ydy’r darlithwyr yn gefnogol?
Mae’r gefnogaeth gan y darlithwyr wedi bod yn dda ers yr wythnos gyntaf – maen nhw’n arwain yr ymchwil sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd, a thrwy hynny, yn ein cadw ni fel myfyrwyr yn y lŵp pan mae hi’n dod i waith newydd. Trwy wneud hyn, mae’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn y darlithoedd yn newydd ac yn gyffrous.
Ydy ÑÇÖÞÉ«°É yn lle da ar gyfer myfyrwyr Cymraeg?
Yn sicr, mae’r holl adnoddau ar-lein i’w cael yn Gymraeg, a gallwch gael tiwtor personol Cymraeg hefyd os y dymunwch.
Wyt ti’n aelod o unrhyw glybiau neu gymdeithasau?
Ydw, dwi’n aelod o UMCB – cymdeithas ar gyfer myfyrwyr Cymraeg ÑÇÖÞÉ«°É. Trwy UMCB, gallwch fynychu tripiau, cael digwyddiadau allgyrsiol a nosweithiau cymdeithasol amrywiol.
Wyt ti’n byw mewn Neuadd Breswyl?
Do, dwi wedi byw yn Neuadd JMJ am y ddwy flynedd gyntaf – roedd hi’n grêt cael byw efo cyf-fyfyrwyr Cymraeg eraill, a chael byw a phobl amrywiol sy’n gwneud cyrsiau gwahanol hefyd.
Wyt ti’n cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É?
Ydw – mae’r GCB yn ffordd wych o gofnodi gweithgareddau rydych yn eu gwneud tra yn y brifysgol. Gall fod o fudd i chi os fydd cyflogwr yn gweld eich bod wedi gwneud gwaith arall tra’n astudio. Dwi’n dysgu gitâr yn rhan-amser, felly roedd hynny’n helpu ar gyfer fy mhwyntiau.
Pa gyngor sydd gen ti i rywun sy’n ystyried dod i Fangor?
Y prif beth fyddwn i’n ei ddweud ydi i chi ddod i ddiwrnod agored, a chymryd mantais o allu siarad a’r darlithwyr un-i-un. Trwy wneud hynny, gallwch weld eu hangerdd nhw am y pwnc, a gwybod eich bod mewn dwylo da pan yn astudio yma.
Beth yw dy obeithion am y dyfodol?
Fy ngobeithion am y dyfodol yw gweithio o fewn y sector Egni Adnewyddadwy Morwrol - dyma faes fyddwn ni’n ddibynnu arno mewn blynyddoedd i ddod, wrth i’n ffynonellau egni anadnewyddadwy ddod i ben. Mae cwrs meistri mewn Ynni Adnewyddadwy Morol i’w gael ym Mangor, felly gobeithiaf barhau a hynnu ar ôl fy ngwrs is-raddedig.