ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
 Arian - Economeg UG

Graddau Economeg Israddedig

Mae astudio Economeg ym Mangor yn galluogi chi i ddatblygu dealltwriaeth o faterion cyfoes sy'n effeithio'r economi. Mae ein cwricwlwm byd go iawn yn seiliedig ar ymchwil academaidd ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Ar y dudalen hon:
Cyrsiau Economeg

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

Ìý

Darganfyddwch y cwrs Economeg i chi

Economeg - BSc (Anrh)
Dadgodiwch gyfundrefnau cyllid y byd. Mae'r cwrs Economeg yn dadansoddi marchnadoedd, polisïau a thueddiadau byd-eang. Lluniwch ddyfodol i chi eich hun mewn busnes, cyllid, neu ymchwil.
Cod UCAS
L110
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Economeg (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Dadgodiwch gyfundrefnau cyllid y byd. Mae'r cwrs Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen yn dadansoddi marchnadoedd, polisïau a thueddiadau byd-eang. Lluniwch ddyfodol i chi eich hun mewn busnes, cyllid, neu ymchwil.
Cod UCAS
L10F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Economeg a Chyllid - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1N3
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Economeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Dewch i ddeall y byd cyllid ac economeg gyda'r cwrs blwyddyn sylfaen hwn. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a pharatowch am yrfaoedd amrywiol sy'n rhoi llawer o foddhad
Cod UCAS
L1NF
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Darlun pensaer o Ysgol Busnes Albert Gubay

Rhodd o £10.5 miliwn i sefydlu ‘Ysgol Fusnes Albert Gubay’ ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.

Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.

Pam astudio yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É?

Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.

Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.

Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.

Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.

P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.

Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.

Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.

Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.

Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.

Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.

Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.

Mae Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn fwy na lle i astudio,Ìýmae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio,Ìýlle mae arloesedd yn ffynnu,Ìýa lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.

Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes,Ìýa hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol

Swgrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Economeg llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Economeg ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Economeg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Cyfleusterau Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É

Uchod mae llawr fasnachu'r Ysgol Fusnes. Ynddi mae gennym derfynellau Bloomberg i fyfyrwyr ddefnyddio.

Graddio'r Gaeaf

Pob blwyddyn rydym yn gweld cannoedd o fyfyrwyr yn graddio o Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn ystod yr haf ar aeaf. Dyma gip olwg o'r seremoni raddio'r gaeaf.

Rydym yn hoffi cadw mewn cysylltiad â’n myfyrwyr ar ôl iddynt raddio felly dewch i ymuno â’n cymuned ar-lein o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar LinkedIn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É.

Delyth Jones-Williams profile picture

Proffil Graddedigion Delyth Jones-Williams

Mae astudio ym Mangor wedi golygu fy mod yn gallu datblygu fy ngyrfa yn bellach, heb y radd doedd ddim posibilrwydd i mi ddatblygu fy ngyrfa yn bellach. Rwyf yn hyderus nawr bod yno lawer o gyfleoedd i mi yn y dyfodol. Dros y 3 mlynedd diwethaf dwi wedi cael cyfnodau anodd ond erioed wedi teimlo fy mod ar ben fy hun, mha hynny yn beth braf iawn.

Dr Rhys ap Gwilym Darlithydd mewn Economeg

Dewch i gwrdd â Dr Rhys ap Gwilym. Yn ogystal â dysgu Economeg i fyfyrwyr israddedig mae Dr Rhys ap Gwilym yng Nghyfarwyddwr Ymchwil yma yn yr Ysgol Fusnes.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.