ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Criw o fyfyrwyr yn eistedd wrth ddesg yn cyd-weithio

Graddau Marchnata Israddedig

Bydd astudio Marchnata ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn eich annog i feddwl yn strategol ac yn greadigol.Ìý Byddwch yn dysgu sgiliau marchnata ymarferol ochr yn ochr â theori ac mae’r BSc mewn Marchnata wedi'i achredu gan CIM, y gymuned fwyaf o farchnatwyr. Rydym yn ymrwymo i ddysgu a rhoi profiadau o’r byd go iawn i chi. Mi welwch chi hynny yn y ffaith ein bod ni yn y chweched safle ar hyn o bryd amÌýFoddhad Addysgu mewn Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus (Guardian University Guide 2025).

Ar y dudalen hon:
Opsiynau o fewn marchnata

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

Ìý

Darganfyddwch y cwrs Marchnata i chi

Marchnata - BSc (Anrh)
Bydd gradd mewn Marchnata yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau i ddeall defnyddwyr, gwybod beth mae arnyn nhw ei eisiau, a gwybod sut i hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau.
Cod UCAS
N501
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Lansiwch eich gyrfa farchnata. Bydd y cwrs BSc Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn eich paratoi i lwyddo trwy roi sylfaen gref i chi a sgiliau i’ch paratoi ar gyfer y diwydiant.
Cod UCAS
N50F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Rheoli Cyfathrebu Marchnata - BSc (Anrh)
Dysgwch am reoli, cynllunio a strategaethau marchnata, a chyfathrebu marchnata tra byddwch yn ennill sgiliau creadigol, dadansoddol, cymdeithasol a digidol.
Cod UCAS
N507
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Darlun pensaer o Ysgol Busnes Albert Gubay

Rhodd o £10.5 miliwn i sefydlu ‘Ysgol Fusnes Albert Gubay’ ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.

Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Busnes, Marchnata a Rheolaeth.Ìý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Busnes, Marchnata a Rheolaeth llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudioÌýBusnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Darlithydd mewn Marchnata Dr Sara Parry

Dewch i gwrdd â Dr Sara Parry Uwch Ddarlithydd Marchnata yma yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É. Enillodd Dr Parry ei PhD mewn Marchnata yma ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É cyn ymuno â'n staff dysgu.Ìý

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.