Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein hacademyddion cymwys a phrofiadol iawn wedi'u hysbrydoli gan yr heriau marchnata y mae sefydliadau yn eu hwynebu. Yn eu tro, maent yn cynnig sylwebaeth feirniadol a chyfoes yn seiliedig ar brofiadau'r byd go iawn i ysbrydoli myfyrwyr. Gyda'n cefnogaeth ni, bydd astudio ar y cwrs gradd hwn (wedi'i achredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig) yn caniatáu ichi ddatblygu i fod yn weithiwr marchnata proffesiynol rhagorol, ac yn gwbl barod i ddechrau ar yrfa gyffrous. Mae natur bersonol y cwrs yn golygu eich bod chi'n fwy nag enw yma. Rydym yn gwerthfawrogi natur unigryw pawb ac yn caniatáu ichi ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gyda chi eich hun yn gyfrifol am deilwra’r rhaglen radd. Er mwyn eich cynorthwyo trwy gydol eich cwrs gradd, cewch eich mentora a'ch cefnogi gan eich Tiwtor Personol ymroddedig. Bydd eich llais yn cael ei glywed trwy Undeb y Myfyrwyr, sy’n gorff gweithgar iawn, a thrwy ein system cynrychiolwyr cyrsiau.Ìý
Ìý
Byddwch yn meithrin sgiliau gydol oes i lwyddo ym myd busnes heddiw sy’n esblygu yn barhaol. Mae datblygu sgiliau, ochr yn ochr â gwybodaeth ac agweddau ymarferol, wrth wraidd ein gradd. Bydd eich taith ddysgu yn eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau marchnata allweddol, nid yn unig at heddiw ond am flynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn rhoi mantais i chi ym myd cystadleuol marchnata.Ìý
Mae ein hasesiadau yn adlewyrchu sefyllfaoedd ac amgylcheddau marchnata bywyd go iawn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau asesu i sicrhau y byddwch yn meistroli sgiliau busnes eang ac yn datblygu'r rhain wrth ichi ddilyn eich gradd. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau ysgrifenedig, cyfathrebu, rhwydweithio a gwneud penderfyniadau. Rydym hefyd yn defnyddio gemau efelychu blaenllaw i greu heriau marchnata sydd mor agos at realiti â phosibl. At hyn, rhoddwn hefyd gyfleoedd dysgu yn y gwaith i chi, a byddwn yn galluogi i ymgymryd â phrosiectau go iawn o’r byd gwaith yn eich blwyddyn olaf.Ìý
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Ceir eithriadau awtomatig o ystod o gymwysterau proffesiynol (e.e. Tystysgrif/Diploma mewn Marchnata Proffesiynol a Marchnata Digidol.
- Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol megis Her Fusnes IBM a 'The Pitch', her farchnata a llunio cynllun busnes a gynhelir ledled y Deyrnas Unedig.
- 3ydd ar gyfer Ansawdd Addysgu: Busnes, Rheolaeth a Marchnata (Times & Sunday Times: Good University Guide)
- Mae ein staff yn ymchwilwyr cynhyrchiol yn eu meysydd pwnc gydag enw da yn rhyngwladol.
- Ymhlith y 10 uchaf am Foddhad MyfyrwyrÌýo fewn Marchnata (Complete University Guide 2023).Ìý
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
O ddiwrnod cyntaf eich cwrs gradd marchnata, byddwch yn dechrau dysgu'r sgiliau i ddatblygu o fod yn fyfyriwr i fod yn arbenigwr marchnata. Bydd modd i chi ddefnyddio cyfleusterau, adnoddau a chyfarpar technoleg gwybodaeth ragorol i gefnogi'ch taith ddysgu. Gwahoddir gweithwyr proffesiynol marchnata allanol i gyflwyno sesiynau i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch cysylltiadau ehangach yn y byd go iawn. Gallwch hefyd fanteisio ar gefnogaeth drylwyr i sicrhau lleoliad gwaith dewisol 10-12 mis i ddatblygu eich proffil cyflogadwyedd.Ìý
Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Gallwch ddisgwyl cael o leiaf 12 awr o amser cyswllt yn ystod pob wythnos addysgu. Disgwylir i chi hefyd ymgymryd ag astudio annibynnol a gwaith grŵp, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein gan ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu cysyniadau a damcaniaethau marchnata sylfaenol ac yn dechrau cymhwyso hyn yn ymarferol. At hyn, byddwch yn dechrau adeiladu eich portffolio proffesiynol gyda phrosiectau marchnata go iawn.Ìý
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn mireinio’r wybodaeth a'r sgiliau a enillwyd ac yn eu cyfuno i archwilio ystod o swyddogaethau marchnata allweddol, gan ganolbwyntio ar swyddogaeth y cyfryngau digidol. Byddwch yn ennill sgiliau ychwanegol yn agweddau gweithredol a strategol marchnata, ac yn dysgu am swyddogaeth marchnata mewn perthynas â swyddogaethau busnes allweddol eraill. Ìý
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn datblygu eich arbenigedd mewn ffordd fwy heriol. Byddwch yn edrych yn fwyfwy strategol ar farchnata i gymhwyso hynny i'ch dysgu, ac i ddatblygu sgiliau i ymdopi â'r heriau bywyd go iawn y mae marchnatwyr proffesiynol yn eu hwynebu yn yr oes ddigidol fyd-eang. Gan weithio mewn grwpiau, byddwch yn cymryd rhan mewn pecyn efelychu marchnata ar-lein a fydd yn rhoi'r profiad i chi o wneud penderfyniadau marchnata yn seiliedig ar eich dadansoddiad o ddata'r farchnad a data cwmni.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlwyddyn un bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol,ÌýHanfodion Marchnata Digidol, Egwyddorion Marchnata, Marchnata Ymarferol a Sgiliau Marchnata Proffesiynol.ÌýMae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megisÌýCyflwyniad i Faterion Rheolaeth Gyfoes mewn Moeseg, Cynaliadwyedd, Rheoli Adnoddau Dynol, a Thwristiaeth a Thechnoleg mewn Marchnata. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 4 eraill yr Ysgol Busnes neu o bynciau eraill yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Yn yr ail flwyddyn byddÌýmyfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol,ÌýYmddygiad Defnyddwyr, Ymchwil Marchnata a CRM a Chyfathrebu Marchnata a Chyfryn. Mae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megis Rheoli Brand a Manwerthu a Marchnata Cynnwys Creadigol.ÌýGall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 5 eraill yr Ysgol Busnes neu o bynciau eraill yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Yn y drydedd flwyddyn bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol,ÌýProsiect Mewnwelediad Cwsmeriaid, Marchnata Strategol Rhyngwladol a Marchnata a Chymdeithas.ÌýMae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megisÌýRheoli Brand a Manwerthu, Marchnata Cynnwys Creadigol, Materion a Thueddiadau mewn Marchnata a Phrosiect Marchnata Cymhwysol. Gall myfyrwyr hefyd dewis gwneud Traethawd Marchnata.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.Ìý
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol,Ìýos na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol,Ìýos na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Bydd gennych amrywiaeth o ddewisiadau gyrfa ar ôl cwblhau'r radd hon. Byddwch yn barod am yrfa mewn marchnata ond fe allech chi hefyd fod yn barod ar gyfer gyrfa mewn busnes neu reoli yn fwy cyffredinol, yn dibynnu ar sut rydych chi’n dewis teilwra’ch gradd. Gallwch ddilyn ôl troed graddedigion o'r radd hon sydd bellach yn gweithio mewn sawl maes fel gwerthu, hysbysebu, rheoli a marchnata mewn sefydliadau masnachol ac yn y llywodraeth. ÌýEr enghraifft, mae graddedigion diweddar wedi Ìýcael swyddi yn Llywodraeth Cymru, Banc Lloyds ac mewn Asiantaethau Marchnata Digidol.
Mae'r radd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig Marchnata sef y prif gorff proffesiynol ar gyfer marchnatwyr sy'n eich galluogi i gael eich eithrio o fodiwlau dethol ar gymwysterau’r Sefydliad Siartredig Marchnata Ìý(ar gael trwy'r Porth Graddedigion). Gallwch gwblhau modiwlau’r Sefydliad Siartredig Marchnata sy'n weddill yn ystod eich gradd neu cyn pen tair blynedd ar ôl graddio. Mae mwy o wybodaeth am y Porth Graddedigion ar gael yma.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý