Darganfyddwch y cwrs Busnes a Rheolaeth i chi
Pam astudio yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É?
Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.
Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.
Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.
Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.
P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.
Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.
Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.
Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.
Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.
Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.
Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.
Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.
Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.
Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.
Mae Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn fwy na lle i astudio,Ìýmae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio,Ìýlle mae arloesedd yn ffynnu,Ìýa lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.
Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes,Ìýa hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.
Cwrdd â'n Myfyrwyr
Mae Lowri yn astudio Cyfrifeg a Chyllid gyda ni yn yr Ysgol Busnes dyma ei phrofiad hyd at hyn.
0:01 Enw fi ydi Lowri a dwi o Ynys Môn a dwi'n astudio yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É.
0.04 Mae'r profiad wedi bod yn rili da a dwi'n teimlo fel mae'r coleg yn lle rili neis i astudio yma.
0.10 Dwi wedi dysgu sut i wneud lot o statments gwahanol a sut i ddeall yr information i gyd sy'n dod mewn hefo nhw.
0.15 Mae o'n rili neis ac mae'r lle yn gefnogol iawn so mae o'n lle lyfli i ddysgu yma.
0.20 Mae o rili wedi helpu yn barod gyda interviews ar gyfer jobs ar ôl gadel.
0.24 Do mae lecturers a personal tutors fi wedi rhoi gymaint o gymorth i mi yn barod
0.29 yn helpu gydag ar ôl gadel Prifysgol a gwybod lle i fynd ar gyfer gwaith.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Busnes, Marchnata a Rheolaeth.Ìý
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Busnes, Marchnata a Rheolaeth llwyddiannus ym Mangor?Ìý
- Beth allai wneud i baratoi at astudioÌýBusnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor?Ìý
- Sut ydw i yn gwybod mai Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý
Cyfleusterau Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É
Uchod mae llawr fasnachu'r Ysgol Fusnes. Ynddi mae gennym derfynellau Bloomberg i fyfyrwyr ddefnyddio.
Graddio'r Gaeaf
Pob blwyddyn rydym yn gweld cannoedd o fyfyrwyr yn graddio o Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn ystod yr haf ar aeaf. Dyma gip olwg o'r seremoni raddio'r gaeaf.
Rydym yn hoffi cadw mewn cysylltiad â’n myfyrwyr ar ôl iddynt raddio felly dewch i ymuno â’n cymuned ar-lein o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar LinkedIn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.