ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Myfyrwyr Cymraeg

Graddau Cymraeg Israddedig

Os ydych am astudio’r Gymraeg mewn prifysgol, ÑÇÖÞÉ«°É yw’r dewis amlwg i wneud hynny gan fod y ddinas wedi’i lleoli yng Ngwynedd, sir Gymreiciaf Cymru o ran canran a nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae astudio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn gyfle i’ch trochi eich hun yn sŵn y Gymraeg a byw eich bywyd drwy gyfrwng yr iaith.

Ar y dudalen hon:

Cyrsiau o fewn Cymraeg

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

Ìý

Darganfyddwch y cwrs Cymraeg i chi

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg - BA (Anrh)
Dewch i feithrin sgiliau mewn Cymraeg ac astudiaethau plentyndod. Paratowch i addysgu meddyliau ifanc a lansio'ch gyrfa ym myd addysg.
Cod UCAS
X321
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg - BA (Anrh)
Archwiliwch lenyddiaeth a diwylliant Cymru a gweithio ar eich sgiliau cyfathrebu. Paratowch at lwybrau gyrfa amrywiol a chael eich trochi mewn cymunedau Cymraeg bywiog.
Cod UCAS
Q562
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg Proffesiynol - BA (Anrh)
Meistrolwch a hyrwyddwch y Gymraeg. Ymwnewch â'i diwylliant cyfoethog ac archwiliwch yrfaoedd amrywiol mewn addysg, cyfieithu, gwasanaeth cyhoeddus, a mwy.
Cod UCAS
Q563
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cymraeg a Cherddoriaeth - BA (Anrh)
Archwiliwch y rhyngweithio cyfoethog rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg. Datblygwch sgiliau amrywiol ar gyfer gyrfaoedd yn y celfyddydau, treftadaeth, addysg a'r cyfryngau wrth gymryd rhan mewn cerddorfeydd a chorau. Lluniwch ddyfodol dwyieithog Cymru trwy ein rhaglen ddiwylliannol gynhwysfawr.
Cod UCAS
QW53
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg a Chymdeithaseg - BA (Anrh)
Dewch i ddeall cymdeithas ac i ddeall Cymru! Mae’r cwrs hwn yn archwilio materion cymdeithasol, yn meithrin rhuglder yn yr iaith Gymraeg, ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd cyfiawnder cymdeithasol a diwylliant Cymru.
Cod UCAS
LQ35
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg a Hanes - BA (Anrh)
Ymddifyrrwch yn straeon Cymru. Archwiliwch hanes cyfoethog y wlad a bywiogrwydd y Gymraeg yn y cwrs difyr hwn.
Cod UCAS
QV51
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cymraeg a Hanes Cymru - BA (Anrh)
Astudiwch lenyddiaeth ac iaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Paratowch at lwybrau gyrfa amrywiol mewn llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a mwy.
Cod UCAS
QMV2
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Archwiliwch fydoedd llenyddol y Gymraeg a’r Saesneg. Dadansoddwch y clasuron, ymchwiliwch i draddodiadau cyfoethog, a datglowch bŵer dweud stori mewn dwy iaith.
Cod UCAS
3Q5Q
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd - BA (Anrh)
Mwynhewch gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol Cymraeg ac ystyriwch rai o gwestiynau dwysaf bywyd.
Cod UCAS
Q5VV
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg ac Ieithyddiaeth - BA (Anrh)
Meistrolwch y Gymraeg ac ieithyddiaeth ym Mangor, gan astudio o'r Mabinogion canoloesol i lenyddiaeth gyfoes. Datblygwch sgiliau dadansoddol a chyfathrebu wrth archwilio treftadaeth Geltaidd ac amrywiadau ieithyddol byd-eang.
Cod UCAS
QQ15
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Cyfunwch y Gymraeg ag ysgrifennu creadigol. Lluniwch straeon ac archwiliwch yrfaoedd amrywiol mewn newyddiaduraeth, y celfyddydau ac addysg.
Cod UCAS
Q5WK
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg i Ddechreuwyr - BA (Anrh)
Croeswch y bont o fod yn ddysgwr Cymraeg i fod yn siaradwr mentrus. Cwrs i ddechreuwyr a siaradwyr dihyder a bydd yr addysgu cyfrwng Cymraeg yn cynyddu wrth i’ch sgiliau ddatblygu.
Cod UCAS
Q565
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg, Theatr a'r Cyfyngau - BA (Anrh)
Cyfunwch y Gymraeg â theatr a’r cyfryngau a meistrolwch sgiliau perfformio, dweud stori a sgiliau digidol. Dilynwch yrfa yn y diwydiannau theatr, ffilm a chreadigol.
Cod UCAS
QWM5
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ieithoedd Modern a Chymraeg - BA (Anrh)
Meistrolwch y Gymraeg ochr yn ochr ag iaith fodern arall. Cofleidiwch gyfoeth diwylliannol a hogwch sgiliau cyfathrebu.
Cod UCAS
R805
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Chymraeg - LLB (Anrh)
Dewch yn arbenigwr cyfreithiol dwyieithog yng Nghymru. Mae’r Gyfraith gyda Chymraeg yn eich paratoi am yrfaoedd cyfreithiol sy'n gofyn am ruglder yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cod UCAS
M1Q5
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

Fy enw llawn i yw Begw Elain Robetrs, dwi'n astudio Cymraeg gyda Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Dwi ar fin fynd mewn i fy ail flwyddyn.

Felly nesi ddewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É oherwydd fy mod i yn awyddus iawn i gael y teimlad o gymuned a bod yn gartrefol, yn enwedig symud o adre am y tro cyntaf er bod adre ond tua hanner awr i ffwrdd, oni eisiau'r teimlad o fyw yn annibynnol a byw efo ffrindiau a dwi'n cael gymaint o hwyl yn JMJ hefyd.

Dwi'n meddwl y rhan gorau o'r cwrs ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ydi'r amrywiaeth yn y modiwlau.

Enwedig yn yr adran Gymraeg, da chi yn medru cael modiwlau steriotipical yn y Gymraeg. Ond wedyn mae yna modiwlau mor gyfoes sydd mor ddiddorol.

Dwi'n meddwl be ddwi'n mwynhau fwyaf am fy nghwrs i o fewn Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ydi gymaint o gyfloed sydd ar gael yma.

Mae'r adran y Gymraeg a Newyddiaduraeth yn fach fel petai ond da chi yn gallu cael gymaint mwy o gefnogaeth a mwy o gyfleoedd ag yn y diwedd da chi

fatha teulu bach a mae pawb yn ffrindiau da.

Dwi'n meddwl fy hoff beth i am Fangor ydi'r gymuned a pa mor glos ydi'r criw Cymraeg yma. Does yna ddim llawer ohonom ni i gymharu efo prifysgolion eraill.

Mae yna gymaint mwy o gyfleoedd ac mae pawb fel teulu bach ac mae'n gymaint o hwyl. Gair o gyngor fi ydi peidiwch â bod ofn, dewch i nosweithiau allan JMJ a byddwch yn rhan o'r gymuned Gymraeg yma.

Does neb yn beirniadu ac mae yna groeso yma i bawb yma ym Mangor.

Dewch i gael blas ar ein cymuned glos

Liam Smiling to Camera with beach backdrop

PROFFIL CYN-FYFYRIWR Liam Evans

Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd.

PROFFIL CYN-FYFYRIWR Arddun Rhiannon

Gradd mewn BA Cymraeg

Astudiodd Arddun radd yn y Gymraeg yma ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu i Mudiad Meithrin ac yn trafod y profiadau gwych a gafodd wrth astudio ym Mangor.

Cysylltu â ni

Ein Hymchwil o fewn Cymraeg

Mae gan Adran y Gymraeg arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith aelodau’r staff mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Rydym yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.