Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Dywedodd JRR Tolkien am y Gymraeg: "Welsh is of this soil, this island, the senior language of…Britain; and Welsh is beautiful”. Wrth i Gymru ddatblygu'n wlad ddwyieithog ddeinamig ni fu erioed amser mwy cyffrous i astudio’r iaith Geltaidd fwyaf bywiog. Dilynwch stori'r Gymraeg o chwedlau canoloesol y Mabinogi i ddiwylliant amlochrog Cymraeg y Gymru gyfoes. Dyma raglen bedair blynedd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer dechreuwyr a siaradwyr dihyder. Mae'n cynnwys Blwyddyn Sylfaen ddwys sy'n canolbwyntio ar iaith, ac yna cynllun gradd BA tair blynedd cynhwysfawr Cymraeg (llwybr ail-iaith)..
Ar y llwybr hwn, mae’r addysgu cyfrwng Cymraeg yn cynyddu fesul tipyn wrth i’ch sgiliau ddatblygu, ac mae modiwlau arbennig wedi eu cynllunio i hwyluso ‘croesi’r bont’ o fod yn ddysgwr i fod yn siaradwr mentrus â gradd mewn Cymraeg.
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych Lefel A Cymraeg – rydym bob tro’n fodlon ystyried cymwysterau eraill, a phrofiadau amgen: mae Cymraeg yn bwnc i fyfyrwyr o bob cefndir. Ac mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn caniatáu i ddechreuwyr pur astudio gyda ni, hyd yn oed os na fu iddynt siarad gair o Gymraeg erioed.
Mae gwneud gradd mewn Cymraeg yn eich caniatáu i fwynhau a gwerthfawrogi un o ddiwylliannau llenyddol cyfoethocaf Ewrop – diwylliant Cymru. Cewch bob cymorth i ymuno’n llawn ym mywyd Cymraeg y brifysgol a’r ardal, a chewch ddysgu hefyd am y Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Gofynnwn gwestiynau megis sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg, neu sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern.
Pam dewis Prifysgol ɫ ar gyfer y cwrs?
- Canolfan ac iddi enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
- Astudio yn amgylchedd unigryw Gwynedd (gogledd-orllewin Cymru) lle mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gyntaf i'r mwyafrif.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dilyn cyrsiau iaith dwys gyda thiwtoriaid proffesiynol o Ganolfan Cymraeg i Oedolion, canolfan â dros 40 mlynedd o brofiad o ddarparu cyrsiau dysgu iaith. Dysgwch hefyd am lên, hanes a diwylliant Cymru. Wedyn, cewch dair blynedd yn dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai. Byddwch yn llunio traethodau, amrywiol ymarferion a thasgau wythnosol, ac yn darllen a pharatoi ar gyfer trafodaethau seminar. Mae asesiadau’n amrywio o waith cwrs i arholiadau. Bydd o leiaf hanner eich modiwlau yn eich ail flwyddyn wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr o gefndir ail-iaith, er mwyn datblygu sgiliau penodol. Byddwch yn ymuno gyda myfyrwyr iaith gyntaf mewn modiwlau eraill, a threfnir tiwtorialau arbennig i’ch cefnogi. Darperir cefnogaeth iaith ychwanegol hefyd yn y drydedd flwyddyn a’r bedwaredd.
Ar ôl y Flwyddyn Sylfaen cewch gyfle i adeiladu ar eich profiadau ac i agor drysau newydd: e.e., trafod yr iaith mewn cyd-destunau sy’n ymwneud â’i hanes a’i chyflwr heddiw, dysgu sgiliau beirniadol newydd ac ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth. Yn y ddwy flynedd wedyn, cewch ddewis helaeth o fodiwlau: e.e., y nofel Gymraeg; y theatr Gymraeg; barddoniaeth fodern ac awdlau’r eisteddfod; dramâu teledu; Dafydd ap Gwilym; y Mabinogion – neu beth am astudio diwylliant Cymraeg America a hyd yn oed gofyn “Beth yw Llenyddiaeth?”
Mae’r modiwlau iaith yn ymestyn o rai hanesyddol i rai cymdeithasegol, o’r cyfle i ddysgu Gwyddeleg neu Lydaweg i fodiwlau sy’n meithrin sgiliau Cymraeg proffesiynol yn y gweithle a hefyd sgiliau Cymraeg i bwrpasau creadigol.
Yn y flwyddyn olaf, cewch gyfle i ymchwilio’n ddyfnach i bwnc sydd o ddiddordeb arbennig ichi, a llunio traethawd hir. Yn ddiweddar mae myfyrwyr wedi ysgrifennu traethodau hir ar unigolion fel Dafydd ap Gwilym, Caryl Lewis, Meic Stevens a Geraint Jarman, ac ar feysydd fel ecofeirniadaeth, rhywedd a thrawsrywedd, llenyddiaeth a chaethwasiaeth, agweddau at adfywio ieithyddol, a phêl-droed mewn llenyddiaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymraeg i Ddechreuwyr BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 88 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn pwnc Dynaiethau e.e. Saesneg, Hanes, Ffrangeg. Nid oes angen Lefel A mewn Cymraeg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol (gyda gradd H5 mewn pwnc Dynaiethau)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DMM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM-DMM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn maes Dynaiethau
- Mynediad mewn pwnc y celfyddydau a'r dyniaethau: Pasio
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn pwnc Dynaiethau e.e. Saesneg, Hanes, Ffrangeg. Nid oes angen Lefel A mewn Cymraeg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol (gyda gradd H5 mewn pwnc Dynaiethau)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn maes Dynaiethau
- Mynediad mewn pwnc y celfyddydau a'r dyniaethau: Pasio
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae myfyrwyr ail-iaith ɫ wedi mwynhau llwyddiannau mawr yn ddiweddar. Mae nifer fawr wedi ennill graddau dosbarth cyntaf, a rhai wedi ennill gwobrau Prifysgol am eu gwaith (gan gystadlu â myfyrwyr iaith gyntaf). Mae rhai wedi dewis mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llewyrchus lle mae eu sgiliau Cymraeg yn hanfodol; mae eraill wedi penderfynu aros yn y byd academaidd, a gwneud graddau ôl-radd mewn Cymraeg, naill ai yma ym Mangor neu mewn prifysgolion rhyngwladol eraill.
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio’r Gymraeg ym Mangor. Ni fu ychwaith gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio’r Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae’r nod yn glir, wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd galw mawr am raddedigion hyderus eu Cymraeg. Bydd gradd mewn Cymraeg yn eich cymhwyso cystal ag unrhyw lwybr arall yn y Dyniaethau – ac yn well na llawer iawn o bynciau eraill. Mae ystadegau cyflogadwyedd yn dangos, flwyddyn ar ôl blwyddyn, fod graddedigion mewn Cymraeg yn llwyddo’n arbennig i ganfod gwaith cymwys.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn sgil hanfodol mewn nifer gynyddol o swyddi, ac nid yw Cymraeg yn bwnc sy’n cau drysau i swyddi rhyngwladol chwaith.
Mae llwyddiant proffesiynol rhyfeddol ein myfyrwyr ym maes gwaith – a’u gyrfaoedd amrywiol – eisoes yn profi pa mor gwbl berthnasol yw’r cwrs hwn i ofynion y Gymru gyfoes. Mae cyfran yn cael eu denu i fyd addysg, yn athrawon cynradd ac uwchradd, yn brifathrawon, yn swyddogion addysg ac yn gyfarwyddwyr addysg. Aiff eraill i fyd addysg bellach ac i fod yn ddarlithwyr mewn prifysgolion. Mae dysgu Cymraeg i oedolion hefyd yn faes allweddol. Mae’r byd teledu a’r cyfryngau digidol a phrint – gan gynnwys canolfan y BBC ym Mangor – yn cynnig trawstoriad o swyddi diddorol, a denwyd cyn-fyfyrwyr eraill at faes cyhoeddi llyfrau, ysgrifennu creadigol a sgriptio teledu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae’r galw yn parhau hefyd am weinyddwyr a swyddogion dwyieithog ar gyfer llywodraeth leol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ɫ
Mae Prifysgol ɫ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.