Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ar y cwrs cyd-anrhydedd hwn, bydd eich modiwlau'n cael eu rhannu rhwng Cymraeg ac Ieithyddiaeth. Mae Cymraeg yn faes eang sy'n cwmpasu chwedlau'r Mabinogi a gwaith ôl-fodernaidd awduron fel Mihangel Morgan. Ieithyddiaeth yw'r astudiaeth o strwythur iaith, sut y caiff ieithoedd eu caffael, sut y cânt eu defnyddio, a sut y gall nam ieithyddol amharu arnynt. Wrth i Gymru gofleidio dwyieithrwydd fwyfwy byddwch hefyd yn astudio defnydd proffesiynol y Gymraeg ac yn anelu at yrfa yn y sectorau marchnata, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu a'r celfyddydau.
Byddwch yn astudio'r pynciau hyn mewn canolfan sydd ag enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Dwyieithrwydd, a honno wedi ei lleoli mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i'r mwyafrif. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd hynod werthfawr i wneud gwaith maes mewn meysydd fel dwyieithrwydd, caffael a throsglwyddo iaith, a sut mae plant yn ymwneud ag iaith.
O gyfuno Cymraeg ac Ieithyddiaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau gwyddonol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth, ac yn dod i ddeall mwy am hanes a chymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Cyfoethogir hyn trwy edrych ar ddatblygiadau ieithyddol yn fyd-eang, a dod i ddeall yn wyddonol sut y mae iaith yn cael ei defnyddio a'i phrosesu gan unigolion a chymunedau, gan gynnwys rhai dwyieithog.
Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol, i gyfieithu a sgriptio, ac o gasglu a dadansoddi data i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn modd eglur, trefnus ac effeithiol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle arbennig i gyfuno'r llenyddol, y creadigol, yr ieithyddol a'r gwyddonol. Yn sicr, mae amrywiaeth y cwrs yn eithriadol o werthfawr, a'r ddau bwnc yn cynnig rhychwant eang o sgiliau a gwybodaeth i chi.
Pam dewis PrifysgolÌýÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- 1af yn y Deyrnas Unedig am Astudiaethau Celtaidd (Times a Sunday Times Good University Guide 2021).
- Canolfan ac iddi enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Dwyieithrwydd.
- Darpariaeth Gymraeg Ddewisol mewn Ieithyddiaeth gyda'r bonws o astudio yng Ngwynedd lle mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw i'r mwyafrif.
- Mae gan ein llyfrgell gasgliad cyfoethog o ddeunyddiau ymchwil ac archifol Cymraeg.
- Mae proffil ieithyddol Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i wneud gwaith maes mewn meysydd fel dwyieithrwydd, caffael a throsglwyddo iaith.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gwyliwch - Mared Fôn Owen
Cynnwys y Cwrs
Mae gradd ar y cyd yn eich caniatáu i astudio’r un modiwlau craidd â myfyrwyr ar y cyrsiau anrhydedd sengl; byddwch yn dilyn llai o fodiwlau dewisol, ond ni fyddwch heb ddewisiadau chwaith.Ìý
Yn y flwyddyn gyntaf, drwy ddarllen testunau allweddol byddwch yn ymgyfarwyddo ag agweddau sy’n greiddiol i'r Gymraeg ac i Ieithyddiaeth. Cewch astudio barddoniaeth, rhyddiaith a drama, gyda’r cyfle os dymunwch, i ddilyn gweithdai sgriptio ac ysgrifennu creadigol yn y Gymraeg, ac mewn Ieithyddiaeth cewch eich cyflwyno i wyddorau ffoneteg a ffonoleg, yn ogystal ag astudio beth yw 'ystyr' ieithyddol. Wrth astudio datblygiad ieithoedd a'u defnydd yn y byd cyfoes, bydd y modiwlau Cymraeg ac Ieithyddiaeth yn cyfannu ei gilydd mewn ffordd ddadlennol.
Yn yr ail flwyddyn a’r drydedd, cynigir amrywiaeth helaeth o bynciau y gellwch eu hastudio, e.e., y nofel o Daniel Owen i Manon Steffan Ros; y theatr Gymraeg; barddoniaeth fodern; dramâu teledu; y Mabinogion. Neu beth am astudio diwylliant Cymraeg Cymry America? Ym maes Ieithyddiaeth ceir modiwlau ar bynciau megis seicoieithyddiaeth, caffael iaith mewn plant a dwyieithrwydd, ac mae modiwlau arbennig yn y flwyddyn olaf, sef Prosiect Ymchwil a’r Traethawd Hir, yn rhoi’r cyfle ichi weithio'n annibynnol a datblygu eich sgiliau mewn meysydd sydd o ddiddordeb arbennig ichi, boed hynny'n ymchwilio i waith awdur neu fardd unigol megis Caryl Lewis neu Geraint Jarman, neu faes fel dwyieithrwydd Cymru, ecofeirniadaeth, rhywedd a thrawsrywedd, ac agweddau ar sosioieithyddiaeth.
Mae’r dysgu’n digwydd drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, cyflwyniadau, astudiaethau achos a gweithdai. Byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion a thasgau wythnosol, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau, yn ogystal â gwaith casglu data a dadansoddi gwyddonol. Mae'r asesu’n gyfuniad o’r gwaith cwrs ac arholiadau, a rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymraeg ac Ieithyddiaeth BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Ieithyddiaeth
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes.
- Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith a gynhelir gan gymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É (BLS).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:Ìý
- Lefel A:Ìý yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwncÌýDyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**Ìý
- Access**:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Ìý
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:Ìý
- Lefel A:Ìý yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwncÌýDyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: DMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**Ìý
- Access**:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Ìý
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Ni fu erioed gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio’r Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae’r nod yn glir, wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.Ìý
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd galw mawr am raddedigion hyderus eu Cymraeg. Bydd gradd mewn Cymraeg ac Ieithyddiaeth yn eich cymhwyso yn ardderchog, gan gyfuno dau faes sy’n eang eu posibiliadau. Mae ystadegau cyflogadwyedd yn dangos, flwyddyn ar ôl blwyddyn, fod graddedigion mewn Cymraeg, yn aml gyda phwnc arall, yn llwyddo’n arbennig i ganfod gwaith cymwys. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac yn Saesneg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn sgil hanfodol mewn nifer gynyddol o swyddi.
Mae llwyddiant proffesiynol rhyfeddol ein myfyrwyr ym maes gwaith – a’u gyrfaoedd amrywiol – eisoes yn profi pa mor gwbl berthnasol yw’r cwrs hwn i ofynion y Gymru gyfoes. Mae cyfran yn cael eu denu i fyd addysg, yn athrawon cynradd ac uwchradd, yn brifathrawon, yn swyddogion addysg ac yn gyfarwyddwyr addysg. ÌýMae’r galw yn parhau hefyd am weinyddwyr a swyddogion dwyieithog ar gyfer llywodraeth leol. Mae dysgu Cymraeg i oedolion hefyd yn faes allweddol.Ìý
Wrth gyfuno Cymraeg ac Ieithyddiaeth cewch eich arfogi â sgiliau sy'n briodol i drawstoriad eang o yrfaoedd, boed mewn gweinyddiaeth, yn y celfyddydau, ym meysydd darlledu (digidol a phrint), yn ogystal ag mewn gwaith cymdeithasol a chwnsela. Mae cyn-fyfyrwyr eraill wedi cael eu denu at faes cyhoeddi llyfrau, ysgrifennu creadigol a sgriptio teledu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Yn wir, mae'r posibiliadau ar gyfer graddedigion y cwrs gradd hwn yn ddirifedi. ÌýÌý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýAstudiaethau'r Cyfryngau a Chynhyrchu (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý