Croeso i Adnoddau Dynol
Datganiad cenhadaeth adrannol Adnoddau Dynol yw cefnogi'r Brifysgol i wireddu ei hamcanion busnes strategol trwy roi i gleientau wasanaeth uchel ei ansawdd a chynhwysfawr sy'n gwella'n barhaus.
Mae’r Adran Adnoddau Dynol wedi mabwysiadu arferion gweithio deinamig y Brifysgol. Mae staff yn bresennol ar y campws, yn Bryn Afon, ar ddiwrnodau gwaith amrywiol a hefyd yn gweithio o gartref. Byddem yn annog pe bai gennych unrhyw ymholiad neu gais am wybodaeth eich bod yn parhau i anfon y rhain yn electronig. I’ch cynorthwyo i gyfeirio eich ymholiadau at yr aelod tîm mwyaf priodol, gweler y dudalen o’r enw ‘Cysylltiadau Staff a Lleoliad Swyddfa’.
Os bydd cydweithwyr yn dymuno cyfarfod â chynrychiolydd o AD yn bersonol, yna rhaid trefnu hyn ymlaen llaw. Mae staff AD hefyd ar gael ar gyfer cyfarfodydd/trafodaethau ynghylch TIMAU.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad parhaus.
Cynllun Diswyddo Gwirfoddol 2025
Yn dilyn ymlaen o'r eitem yn y bwletin staff ar Ddydd Iau Ionawr 16eg, mae'r Cynllun Diswyddo Gwirfoddol ar agor i geisiadau o'r 20fed o Ionawr i'r 28ain o Chwefror 2025. Gellir dod o hyd i'r Polisi Diswyddo Gwirfoddol a set o gwestiynau a Ofynnir yn Aml ar y tudalennau gwe hyn. Nid oes unrhyw ffurflen sydd angen ei chwblhau, gellir gwneud ceisiadau drwy’r Adran Adnoddau Dynol (hr@bangor.ac.uk) neu’n uniongyrchol at Tracy Hibbert, Prif Swyddog Pobl, t.hibbert@bangor.ac.uk neu Steffan Griffith, Dirprwy Brif Swyddog Pobl pos805@bangor.ac.uk. Gellir gwneud ymholiadau am ddiswyddo gwirfoddol yn gyfrinachol hefyd.
Os hoffech chi felly fanteisio ar y cynllun, gallwch naill ai drafod gyda’ch Pennaeth Ysgol neu arweinydd Gwasanaethau Proffesiynol, neu os hoffech drafod eich diddordeb yn gyfrinachol cysylltwch â naill ai Tracy neu Steffan fel y nodir uchod.
Hyfforddiant Gorfodol
Mae’r Brifysgol wedi gwneud rhai newidiadau i’r gofynion ar gyfer cwblhau ³ó²â´Ú´Ú´Ç°ù»å»å¾±²¹²Ô³Ù g´Ç°ù´Ú´Ç»å´Ç±ô sydd yn berthnasol i holl staff. Hyfforddiant sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith yw hyn. Ceir deg modiwl i gyd, maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae modd cael mynediad atynt trwy Blackboard yma . Mae’r deg modiwl yn cwmpasu’r pynciau canlynol:
- °ä²â´Ú°ù±ð¾±³Ù³ó¾±´Ç±ô a C³ó²â»å²â³¾´Ú´Ú³Ü°ù´Ú¾±²¹±ð³Ù³ó
- Diogelwch
- Cydraddoldeb
Mae’n bwysig bod staff sydd newydd ymuno â’r Brifysgol yn cwblhau’r modiwlau cyn gynted a bod modd ac o fewn mis iddynt gychwyn yn eu swydd. Mae’n ofynnol i weddill staff y Brifysgol gwblhau’r hyfforddiant erbyn diwedd Ebrill 2025.
Mae gan Reolwyr Llinell gyfrifoldeb i sicrhau bod eu holl staff o fewn eu tîm / adran wedi cwblhau’r hyfforddiant yn ogystal â unrhyw staff newydd.  Mae Adnoddau Dynol yn monitro faint sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant fesul adran a Choleg.  Ceir nifer o gyfleoedd yn ystod y flwyddyn i fonitro cynnydd eich staff trwy:  sgyrsiau anffurfiol, cyfarfodydd ffurfiol, wirio’r rhestr gynefino ac adolygiadau blynyddol datblygu perfformiad (ADP).   
Am wybodaeth bellach, ymwelwch ag adran Datblygu Staff ar wefan y Brifysgol. Bydd y dudalen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am y modiwlau, ynghyd â gwybodaeth arall megis dyddiadau adnewyddu pob modiwl. Yn gynnar yn 2025 bydd modd i staff wirio pa fodiwlau gorfodol ma nhw wedi gwblhau a dyddiadau adnewyddu yn y modiwl Dysgu o fewn y porth ESS (itrent).
Hysbysiad Preifatrwydd Data Staff
Cliciwch yma i weld Hysbysiad Preifatrwydd Data Staff Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É