Buddion Pensiynau ÑÇÖÞÉ«°É
Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno cynllun a fydd yn galluogi i aelodau Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) a Chynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (UPAS) gynyddu eu cyflog clir (take home pay) gan barhau i gronni buddion yn y cynllun pensiwn yr un pryd.
Dan y trefniant hwn, a fydd yn effeithiol o Mehefin y 1af 2009, mae aelodau’r cynllun pensiwn yn dewis ildio rhan o’u cyflog sy’n gyfwerth â’u cyfraniadau eu hunain i’r cynllun pensiwn perthnasol. Yn gyfnewid, mae’r Brifysgol yn talu’r swm hwn i’r cynllun pensiwn yn ychwanegol at y cyfraniadau cyflogwr arferol i’r Cynllun.
O ganlyniad i ildio rhan o’u cyflog, bydd gweithwyr yn talu llai o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a bydd eu cyflog clir yn cynyddu. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynllun hyn i aelodau USS a UPAS.