Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Datblygiadau diweddar...
- Dyfarnwyd gwobr Arian Athena Swan i ni ym mis Ionawr 2024
- Mae ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau canolrifol wedi lleihau, o 7.2% yn 2020 i 5.6% yn 2023 (cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024).
- Penodwyd yr Athro Morag McDonald i rôl newydd Amrywiaeth a Chynhwysiant APVC.
- Penodwyd Dr Thandi Gilder i rôl newydd fel Arweinydd Datblygu Dysgu ac Addysgu (Amrywiaeth a Chynhwysiant) yn CELT (y Ganolfan Gwella Dysgu ac Addysgu). Bydd y rôl hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn mynd i'r afael ag arfer cynhwysol mewn addysgu ac asesu ar draws y Brifysgol ac yn cefnogi ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
- Yn ystod 2022 ymunodd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É â Siarter Cydraddoldeb Hiliol Advance HE. Mae ein taith tuag at ddod yn Brifysgol wrth-hiliol fel rhan o'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn gofyn am ymrwymiad parhaus ac adnoddau ymroddedig ac rydym wedi ymrwymo i wneud cais am wobr Efydd ym mis Tachwedd 2024. Darperir gwybodaeth am ein taith Siarter Cydraddoldeb Hiliol a rhagwelwn ymgysylltiad sylweddol gan staff a myfyrwyr.
- Yn ystod 2023 ymunodd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É â’r Fforwm Anabledd Busnes a dod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd lefel 2 i’n helpu i ganolbwyntio ar ein hymrwymiad sefydliadol i ddileu rhwystrau i gyflogaeth ac astudio ar gyfer staff a myfyrwyr â namau.
Hanes
Cafodd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ei sefydlu o ganlyniad i ymgyrch yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg dros ddarparu gwell addysg uwch yng Nghymru. Agwedd bwysig ar yr ymgyrch codi arian i sefydlu coleg statws prifysgol ym Mangor, oedd y cyfraniadau gwirfoddol a wnaed gan bobl lleol, gan gynnwys ffermwyr a chwarelwyr, o'u tâl wythnosol dros nifer o flynyddoedd.
Agorodd y Brifysgol ei drysau ar 18 Hydref 1884 mewn hen dafarn hyfforddi ar lannau Culfor Menai gyda 58 o fyfyrwyr a 10 aelod o staff. Yng Ngogledd Cymru roedd brwdfrydedd mawr dros achos addysg menywod. O'r myfyrwyr cyntaf i gael eu cofrestru yn y Coleg, roedd traean yn fenywod.
Mae Strategaeth Gorfforaethol y Brifysgol ‘Strategaeth 2030 – Byd Cynaliadwy i Genedlaethau’r Dyfodol’ yn nodi:
Ein Cenhadaeth
Prifysgol Gogledd Cymru ac ar gyfer Gogledd Cymru, sy'n cael ei harwain gan ymchwil ac yn Meithrin effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Ein Gweledigaeth
Prifysgol ac iddi gysylltiadau byd-eang, sy’n gwireddu cyfleoedd ar gyferllwyddiant trwy ymchwil ac addysgu trawsnewidiolac arloesola sbardunir gan effaith, gyda ffocws ar gynaladwy – diogelu’r amgylchedd, adfywio iechyd cymdeithas, a hyrwyddio ffyniant economaidd, cymdeithasol, dwyieitho, a diwylliannol.
Ein Gwerthoedd
- Uchelgais
- Cynwysoldeb
- Uniondeb
- Parch
- Cynaliadwyedd
- Trawsnewid
Gyda thema benodol o Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 – 2028 yn ddatganiad o’n hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae’n cefnogi ein cenhadaeth, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd.
Gwyliwch y cyflwyniad byr hwn i gael gwybodaeth am
Dyma ein Hysbysiad Preifatrwydd Cydraddoldeb