Rhwydwaith LGBTQ
Sefydlwyd Rhwydwaith LGBTQ staff ac ôl-raddedig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn 2018. Mae’n agored i unrhyw un sy’n gweithio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n nodi eu bod yn lesbiaidd, hoyw, bi, traws, queer neu holi, ynghyd â ffrindiau a chynghreiriaid ein cymuned.
Ein Pwrpas
Sefydlwyd Rhwydwaith LGBTQ ÑÇÖÞÉ«°É i ddarparu fforwm ar gyfer rhwydweithio a dulliau cymorth, i gynnig cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol hysbysu a chydweithio ar gamau LGBTQ ac i gynyddu gwelededd materion LGBTQ yn y gweithle. Mae croeso i unrhyw staff neu fyfyrwyr ôl-raddedig gymryd rhan yn y gwaith o redeg y Rhwydwaith neu ddod i’r cyfarfodydd dal i fyny anffurfiol.
I gael mwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, cysylltwch ag arweinydd y rhwydwaith, Marcel Clusa neu Nia Blackwell ym maes Adnoddau Dynol yn lgbtq@bangor.ac.uk.
Sut mae’r Brifysgol yn Ein Cefnogi
Mae’r Brifysgol yn cynorthwyo ac yn hwyluso’r Rhwydwaith, gan ddarparu adnoddau, ystafelloedd i gwrdd ag ati. Mae'r holl staff a myfyrwyr yn cael eu gwarchod gan Bolisi Urddas yn y Gwaith ac Astudio’r Brifysgol.
Ble a phryd?
Mae Rhwydwaith LGBTQ+ ÑÇÖÞÉ«°É yn cyfarfod ar-lein yn fisol drwy Teams, anfonwch e-bost atom yn lgbtq@bangor.ac.uk am fanylion y cyfarfod nesaf.
Rydym hefyd yn cyfarfod yn anffurfiol ar gyfer ein Panad LGBTQ+ ar ddydd Iau cyntaf pob mis rhwng 15:30 a 16:00 yn Cegin, Pontio, yn effeithiol o 05/10/2023. Mae Panad LGBTQ+ yn agored i bawb ac nid oes angen i gofrestru neu fod yn rhan o'r Rhwydwaith i fod yn bresennol.
Mae’r dudalen hon ar gyfer Rhwydwaith LGBTQ y staff a’r myfyrwyr ôl-raddedig. Os ydych chi’n chwilio am Gymdeithas LGBTQ + y myfyrwyr, dilynwch y dolenni hyn isod