Y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr
Mae rhagor o fanylion a dolenni i gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymchwilwyr ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gael
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi ymuno â Choncordat 2019 y Deyrnas Unedig sy'n gytundeb rhwng cyllidwyr a chyflogwyr staff ymchwil i wella cyflogaeth a chefnogaeth i ymchwilwyr. Mae'n nodi safonau clir y gall staff ymchwil eu disgwyl gan y sefydliad sy'n eu cyflogi, ynghyd â'u cyfrifoldebau fel ymchwilwyr.
Darllenwch lythyr ymroddiad yr IG i’r Concordat i Gefnogi’r Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr
Mae tair egwyddor i'r Concordat, sef;
1. Amgylchedd a diwylliant | |
Mae ymchwil rhagorol yn gofyn am ddiwylliant ymchwil cefnogol a chynhwysol. | |
2. Cyflogaeth | |
Mae ymchwilwyr yn cael eu recriwtio, eu cyflogi a'u rheoli o dan amodau sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. | |
3. Datblygiad proffesiynol a gyrfaol | |
Mae datblygiad proffesiynol a gyrfaol yn rhan annatod o alluogi ymchwilwyr i ddatblygu eu llawn botensial. Rydym yn ceisio barn a syniadau ein hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa trwy'r Grŵp Concordat Datblygu Ymchwil ac Ymchwil sydd â chynrychiolaeth o bob Coleg. Rydym hefyd yn ymgysylltu'n rheolaidd ag ymchwilwyr ar bob lefel trwy arolygon ac ymgynghoriad fel ein bod yn ymwybodol o farn ymchwilwyr ar draws y brifysgol. Trwy ymgynghori ag ymchwilwyr rydym wedi datblygu ystod eang o gyfleoedd datblygu i sicrhau bod gan ymchwilwyr ym Mangor y sgiliau a'r wybodaeth i fod yn ymchwilwyr llwyddiannus. Ar lefel sefydliadol rydym wedi ymrwymo i gefnogi lles staff a hyrwyddo gweithle cynhwysol i'n holl aelodau staff sydd yn allweddol yn ein barn ni i sicrhau ymroddiad staff ac amgylchedd gwaith cadarnhaol. |
Mae mwy o wybodaeth am y Concordat ar gael .
Gwobr Rhagoriaeth AD mewn Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd
Mae prifysgolion y DU yn dangos eu bod yn bodloni gofynion Siarter a Chod y Comisiwn Ewropeaidd ar Reoli Ymchwilwyr trwy wneud cais am Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol y Comisiwn Ewropeaidd. Gwnaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ei chais cyntaf llwyddiannus am y wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil Adnoddau Dynol yn 2012. Mae’r Brifysgol yn derbyn adolygiadau rheolaidd yn fewnol (bob dwy flynedd) ac allanol (bob pedair blynedd) fel sy’n ofynnol gan Wobr Rhagoriaeth AD mewn Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd. Felly, bob dwy flynedd mae’n rhaid i’r Brifysgol gyhoeddi ei Chynllun Gweithredu Concordat sy’n amlinellu camau i gefnogi ymchwilwyr yn y dyfodol.
Adroddiad Blynyddol Concordat 2023
Adroddiad Blynyddol Concordat Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 2023
Cynllun Gweithredu ac Adroddiad Concordat 2022
2022 - 2025 Cynllun Gweithredu Concordat
"Adroddiad 10 mlynedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 2022
Cynllun Gweithredu Concordat 2020 -2022 - Adroddiad Cynnydd
Adroddiad Cynnydd Blynyddol Concordat 2021Â
Adroddiad Cynnydd Blynyddol Concordat 2021Cynllun Gweithredu ac Adroddiad Concordat 2020
2020 - 2022 Cynllun Gweithredu Concordat
Adroddiad 8 mlynedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 2020
Cynllun Gweithredu Concordat 2018 -2020 - Adroddiad Cynnydd
Dadansoddiad Bwlch yn erbyn y Concordat newydd
Cynlluniau Gweithredu ac Adolygiadau Concordat Prifysgol Cymru
Gwerthusiad ac adolygiad chwe blynedd 2018Cynllun Gweithredu Concordat 2016–2020
Gwerthusiad ac adolygiad pedair blynedd 2016
Cynllun Gweithredu Concordat 2014–2016
Adolygiad interim dwy flynedd 2014
Cynllun Gweithredu Concordat 2012
Dadansoddiad o’r Bylchau 2012