Crynodeb
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn enwog yn rhyngwladol am ei dylanwad prif ffrwd ar ansawdd cyflwyno rhaglenni sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ac mae wedi bod ar flaen y gad yn y gwaith o drosi ymchwil i ymarfer. 
Gall rhaglenni sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar gynorthwyo pobl i reoli cyflyrau iechyd meddwl tymor hir fel iselder a phryder. Rebecca Crane o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É oedd yn arwain datblygiad yr ymyriadau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar: Meini Prawf Asesu Addysgu (MBI: TAC) - yr unig adnodd sy'n diffinio ac yn asesu elfennau cymhwysedd a chywirdeb addysgu rhaglenni seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ar sail tystiolaeth - Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) a Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR).
Hyfforddiant athrawon sy'n cynnwys ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar: Mae’r meini prawf asesu addysgu yn arwain at gwell ganlyniadau (cynyddu llesiant a lleihau straen canfyddedig) i gyfranogwyr rhaglenni sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn lleoliadau prif ffrwd.
Ymchwilwyr
- Dr Rebecca Crane
- Dr Dusanna Dorjee
- Dr Catrin Eames
- Yr Athro Richard Hastings
- Yr Athro Jo Rycroft-Malone
- Yr Athro Ian Russell
- Mrs Heledd Griffiths