Crynodeb
Mewn cyfres o astudiaethau a gyllidwyd gan Weinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig (MoD), mae tîm yr Athro Walsh ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi dangos bod diffygion yn niet milwyr yn dylanwadu’n sylweddol ar salwch, anafiadau, a thanberfformio yn ystod hyfforddiant milwrol.
Dangosodd astudiaethau maes gyda'r fyddin fanteision iechyd a pherfformiad egni dietegol a fitamin D ychwanegol. O ganlyniad, newidiodd y fyddin ei pholisi a rhoi arferion maethol ar waith.
Mae’r newidiadau yn cynnwys ychwanegyn llawn egni i’r holl filwyr sy'n cymryd rhan yn yr Infantry Battle School Courses caled; ac ychwanegyn fitamin D geneuol i’r holl recriwtiaid sy'n cwblhau hyfforddiant cychwynnol, ac i’r holl bersonél yn y llu cefnogi COVID-19. 

Ymchwilwyr
- Yr Athro Neil Walsh
- Dr Sam Oliver
- Dr Matthew Fortes