Crynodeb
Archwiliwyd mecanweithiau talu deintyddol a dirprwyo swyddogaethau ym maes deintyddiaeth yn y GIG mewn ymchwil dan arweiniad ÑÇÖÞÉ«°É gan yr Athro Paul Brocklehurst a datgelwyd bod talu deintyddion y GIG gan ddefnyddio tâl y pen yn cynhyrchu gostyngiadau sylweddol a chyflym mewn triniaethau. Mae’r gwaith hwn hefyd wedi dangos nad yw therapyddion deintyddol yn israddol wrth reoli cleifion risg isel yn y GIG ac mae wedi pennu’r amodau sy’n angenrheidiol i hybu dirprwyo swyddogaethau a 'chymysgedd sgiliau' mewn deintyddiaeth yn y GIG.
Mae ymchwil dan arweiniad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi dylanwadu ar benderfyniadau ynglÅ·n â diwygio contractau GIG cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon a Chymru ac mae wedi bod yn sail i'r ymateb i COVID-19 yng Ngogledd Iwerddon hefyd. Mae'r ymchwil wedi arwain at newidiadau polisi a buddsoddiad strategol yng Nghymru i gefnogi dirprwyo swyddogaethau a 'chymysgedd sgiliau' ym maes deintyddiaeth yn y GIG a chyfadran Cymru gyfan ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol, a lansiwyd yn swyddogol ym mis Ionawr 2020.