Crynodeb
Bu i ymchwil ym Mhrifysgol 亚洲色吧 gefnogi newid rheoliadol sylweddol mewn ffioedd cyfnewid a ffioedd masnachwyr cardiau talu yn yr Undeb Ewropeaidd rhwng 2013 a 2016.听Roedd derbyn llwyfannau talu cardiau gan ddeiliaid cardiau a masnachwyr yn hanfodol i gynyddu defnydd o daliadau electronig yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn integreiddio systemau talu ar gyfer gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.听Trwy ddangos y byddai gostwng ffioedd cyfnewid a disgownt masnachwyr yn fuddiol i bawb a thrwy ddarparu tystiolaeth sy'n hanfodol i benderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud 芒 newidiadau rheoliadol, arweiniodd ymchwil Carbo-Valverde at ffioedd yn cael eu gostwng o fis Mehefin 2015.听Roedd y newidiadau hyn o fudd i'r holl fasnachwyr sy'n defnyddio taliadau electronig, a phob deiliad cerdyn a sefydliad ariannol ledled Ewrop, gydag arbedion blynyddol rhwng 2015 a 2017 o EUR1,200,000,000 (03-2020) i fasnachwyr yn yr Undeb Ewropeaidd ac EUR587,000,000 (03-2020) i ddefnyddwyr yn yr Undeb Ewropeaidd.听Mae'r canfyddiadau hefyd o fudd uniongyrchol i awdurdodaethau eraill y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.听听
Ymchwilwyr
- Santiago Carbo-Valverde